Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Llyfr y Flwyddyn 2014Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2014.

Fe gafodd dros 50 o lyfrau Cymraeg cymwys eu cyflwyno i'r beirniaid am eleni sef yr awdur Gareth Miles, y bardd Eurig Salisbury a'r blogiwr ac awdur Lowri Cooke.

Fe gafodd naw llyfr eu dewis ar gyfer y rhestr fer mewn tri chategori. Bydd enillydd bob categori yn derbyn £2,000, gyda £6,000 yn ychwanegol i'r prif enillydd yn Gymraeg a Saesneg.

Dyma'r cyfrolau Cymraeg :-

Rhestr Fer Barddoniaeth :-

  • Rhwng y Llinellau - Christine James (Cyhoeddiadau Barddas);

  • Trwy Ddyddiau Gwydr - Sian Northey (Gwasg Carreg Gwalch);

  • Lôn Fain - Dafydd John Pritchard (Cyhoeddiadau Barddas).

Rhestr Fer Ffuglen :-

  • Dewis - Ioan Kidd (Gwasg Gomer);

  • Paris - Wiliam Owen Roberts (Cyhoeddiadau Barddas);

  • Eneidiau - Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch).

Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol :-

  • Bob: Cofiant R.Williams Parry 1884-1956 - Alan Llwyd (Gwasg Gomer);

  • Y Brenhinbren: Bywyd a Gwaith Thomas Parry 1904-1985 - Derec Llwyd Morgan (Gwasg Gomer);

  • Ffarwel i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T.H.Parry Williams - Angharad Price (Gwasg Gomer).

'Adlewyrchu safon'

Dywedodd Lowri Cooke: "Bu'n flwyddyn o brofiadau llawn pleser a phoen, wrth gyrraedd y rhestr ddethol.

"Ces fy nallu gan ddagrau, fy nieithrio yn llwyr, fy nifyrru a'm gwylltio yn gacwn. Cefais gwmni dau feirniad â chanddynt farn bendant, a bu'r trafod yn bleser amheuthun.

"Mae'r darllen yn parhau, a'r sgwrsio'n dwysau - rhaid dweud, rydw i yn fy elfen."

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2014 yn adlewyrchu safon y gwaith a gyhoeddwyd yn ystod 2013.

"Tri chategori, dwy iaith, a deunaw o awduron yn ymgiprys am y teitl Llyfr y Flwyddyn Cymraeg a Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2014.

"Mae pob un o'r llyfrau werth eu darllen, a gyda naw wythnos tan y Seremoni Wobrwyo, nawr yw'r amser perffaith i fwrw ati."

Rhestr Saesneg

Yr un yw'r categorïau yn y rhestr fer llyfrau Saesneg, a'r beirniaid yw'r awdur a newyddiadurwr Jasper Rees, y darlithydd Andrew Webb a'r comedïwr Nadia Kamil. Dyma'r rhestr:

Rhestr Fer Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias :-

  • Pink Mist - Owen Sheers (Faber and Faber);

  • The Shape of a Forest - Jemma L.King (Parthian);

  • Barkin! - Mike Jenkins (Gwasg Carreg Gwalch).

Rhestr Fer Ffuglen :-

  • The Rice Paper Diaries - Francesca Rhydderch (Seren);

  • Clever Girl - Tessa Hadley (Jonathan Cape);

  • The Drive - Tyler Keevil (Myriad Editions).

Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol :-

  • R.S.Thomas: Serial Obsessive - M.Wynn Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru);

  • Rhys Davies: A Writer's Life - Meic Stephens (Parthian);

  • And Neither Have I Wings To Fly - Thelma Wheatley (Inanna Publications).

Bydd yr holl enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn Galeri Caernarfon ar ddydd Iau, 10 Gorffennaf.

Yn y seremoni fe fydd gwobr arbennig hefyd yn cael ei chyflwyno sef Gwobr Barn y Bobl a'r People's Choice Award i hoff lyfrau darllenwyr Cymru o'r rhestr fer.

Gellir pleidleisio am eich hoff lyfr Cymraeg ar wefan Golwg360, dolen allanol, a'ch hoff lyfr Saesneg ar wefan WalesOnline., dolen allanol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol