Ymddiheuro dros fethiannau archwilio

  • Cyhoeddwyd
Dr Kate Chamberlain
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Kate Chamberlain, pennaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod archwiliadau dirybudd wedi adnabod rhai ond nid pob un o'r methiannau

Mae pennaeth y corff sy'n gyfrifol am gynnal archwiliadau dirybudd yn ysbytai Cymru wedi ymddiheuro am fethu adnabod pryderon a ddaeth i'r amlwg mewn adroddiad beirniadol.

Dywedodd gweinidogion fod casgliadau adroddiad am ofal ar gyfer pobl hŷn mewn dau ysbyty yn y de wedi bod yn 'sioc'.

Yn ôl Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) Kate Chamberlain, roedd ei thimau wedi adnabod rhai, ond ddim pob un o'r methiannau.

Mae'r gweinidog iechyd Mark Drakeford wedi gorchymyn y dylid cynnal mwy o archwiliadau.

Dywedodd Dr Chamberlain: "Mae'n rhaid i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb."

Dechreuodd archwiliadau dirybudd ar wardiau yn 2011 yn dilyn adroddiad gan y comisiynydd pobl hŷn ar y pryd, Ruth Marks, a ddywedodd fod peth gofal yn gywilyddus o annigonol.

Yng Ngorffennaf 2012, casglodd AGIC fod y gofal mewn dwy ward yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn cael ei ddarparu mewn "modd sensitif".

Gwnaeth arolygwyr gyfres o argymhellion ar ôl ymweld â'r wardiau, ond ar y cyfan roedd eu hadroddiad yn bositif.

Ond roedd yr adroddiad Ymddiried mewn Gofal, dolen allanol a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn amlygu nifer o fethiannau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gan gynnwys pobl yn dweud wrth gleifion am fynd i'r tŷ bach yn y gwely ac anwybodaeth ynglŷn ag anghenion dementia.

Mae Plaid Cymru wedi disgrifio'r archwiliadau dirybudd newydd fel "ail-bobi polisi teirblwydd oed" ac mae'n honni bod yr archwiliadau a ddechreuwyd gan AGIC wedi dod i ben ddiwedd 2012

Ond gwrthododd Dr Chamberlain yr honiad hynny, gan ddweud bod AGIC ar fin adrodd ar "nifer" o archwiliadau a gynhaliwyd yn 2013.

Dywedodd fod AGIC wedi "cryfhau" y ffordd y mae'n cynnal archwiliadau gan gynnwys canolbwyntio ar arweinyddiaeth a diwylliant.

Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi ymddiheuro am y methiannau amlygwyd yn yr adroddiad Ymddiried mewn Gofal.

Pan ofynnnodd BBC Cymru i Dr Chamberlain a oedd hi'n teimlo bod angen iddi ymddiheuro, dywedodd hi: "Ar unrhyw bwynt lle mae methiannau o'r maint sydd wedi cael eu hamlygu yn yr adroddiad [Ymddiried mewn Gofal], ac rydym wedi methu eu hadnabod, rwy'n meddwl bod rhaid i ni i gyd gymryd cyfrifoldeb am edrych yn ôl a meddwl sut y gallwn o bosib adnabod a gwneud gwahaniaeth yn gynharach yn y broses."

"Felly byddwn, dwi'n meddwl y byddwn i'n bendant yn cydnabod hynny."

Ychwanegodd: "Mae darllen yr adroddiad yn anghyfforddus i ni i gyd. Ac mae'n rhaid ei fod e hyd yn oed yn fwy felly ar gyfer perthnasau'r bobl a effeithiwyd gan y digwyddiadau.

"Wrth edrych nôl, mae'n glir ein bod ni wedi adnabod rhai ond ddim pob un o'r materion a gafodd eu hadnabod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol