'Argyfwng Cymry Lerpwl' yn ôl cymdeithas
- Cyhoeddwyd
Gall dyfodol Cymdeithas Gymraeg Lerpwl fod yn y fantol oherwydd prinder aelodau o dan 50 oed, yn ôl un aelod.
Yn siarad ar Raglen Dylan Jones ar BBC Radio Cymru fe ddywedodd Is Lywydd y Gymdeithas, Dr John Williams, y gallai'r Gymdeithas ddod i ben yn fuan oherwydd diffyg aelodau newydd.
Rhybuddiodd mai "yr alltudion eith gyntaf, a'r Cymry fydd nesaf".
Mae Cymdeithas Gymraeg Lerpwl yn cwrdd yn wythnosol ac yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol. Ond erbyn hyn, prin iawn yw'r aelodau o dan 50 oed.
Dywedodd Dr Williams ei fod yn bryderus iawn am y dyfodol.
"Rwy'n 62 eleni, ac ymhen 15 mlynedd, gyda threiglad amser, fydd neb yn ysgwyddo'r baich."
Helpu pobl
Ceisiodd egluro absenoldeb Cymry ifanc Lerpwl.
"Mae pobl yn gweithio yn galetach, ac mae gan lawer bartner di-Gymraeg. Mae defnydd gwefannau cymdeithasol yn ffactor hefyd."
Ond gwrthododd yr honiad nad oedd y Gymdeithas yn darparu gweithgarddeddau addas ar gyfer pobl iau.
Wrth edrych tua'r dyfodol dywedodd: "Paid â rhoi fyny. 'Da ni ishe bod yn gymdeithas fywiog i Lerpwl, fel mae wedi bod."
Apeliodd ar Gymry'r ddinas gysylltu â nhw, gan ddweud: "'Da ni ishe bod yn gymdeithas sy'n helpu pobl, dim jyst darlithoedd sych."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013