Gareth Bale yng ngharfan Cymru i wynebu'r Iseldiroedd

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale yng ngharfan Chris Coleman

Mae Gareth Bale wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru i wynebu'r Iseldiroedd yn Amsterdam ar 4 Mehefin, ond mae Aaron Ramsey yn cael ei orffwys.

Mae gôl-geidwad Cheltenham Connor Roberts, 21 oed ac sydd heb ennill cap, hefyd yn y garfan ar ôl i Boaz Myhill gadarnhau ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol.

Mae'r amddiffynwyr Paul Dummett a James Chester, sydd ill dau heb gynrychioli eu gwlad hyd yn hyn, yn y garfan yn lle Ashley Williams a Ben Davies sydd wedi eu hanafu.

Mae chwaraewr Manchester United, Tom Lawrence, 20 oed, hefyd yn y garfan am y tro cyntaf.

Linebreak

Y garfan yn llawn :-

Gôl-geidwaid -

Wayne Hennessey - Crystal Palace

Connor Roberts - Cheltenham Town

Owain Fon Williams - Tranmere Rovers

Amddiffynwyr -

James Chester - Hull City

Paul Dummett - Newcastle United

Danny Gabbidon - Crystal Palace

Declan John - Caerdydd

Lewin Nyatanga - Barnsley

Ashley Richards - Abertawe

Neil Taylor - Abertawe

Canol cae -

Joe Allen - Lerpwl

Jack Collison - West Ham

Emyr Huws - Manchester City

Owain Tudur Jones - Hibernian

Andy King - Caerlŷr

Tom Lawrence - Manchester United

Joe Ledley - Crystal Palace

David Vaughan - Sunderland

Jonathan Williams - Crystal Palace

Blaenwyr -

Gareth Bale - Real Madrid

Simon Church - Charlton Athletic

Jermaine Easter - Millwall

Hal Robson-Kanu - Reading

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol