Arwyddo Coleman am roi 'sefydlogrwydd' i dîm Gymru

  • Cyhoeddwyd
Rheolwr Cymru Chris Coleman (C) efo Kit Symons (Ch) a Osian RobertsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Coleman (canol) yn dweud ei fod o wastad wedi eisiau aros fel rheolwr Cymru

Mae arwyddo Chris Coleman fel rheolwr Cymru am ddwy flynedd arall yn rhoi 'cyfnod o sefydlogrwydd' i'r tîm yn ôl Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru.

Fore Gwener daeth y cadarnhad ei fod o wedi arwyddo estyniad ar ei gytundeb.

Y nod yn ôl Jonathan Ford ydy bod Cymru yn cyrraedd y rowndiau olaf ym mhencampwriaeth UEFA Ewrop yn 2016:

"Mae gan Chris y cyfle rŵan i sicrhau bod Cymru yn gwneud yn dda ym mhencampwriaeth Ewrop yn 2016 yn Ffrainc.

"Mae hyn yn rhoi cyfnod o sefydlogrwydd i ni ac fe all Chris adeiladu ar ei strategaeth ar gyfer y sgwad bresennol.

"Dw i'n edrych ymlaen at weithio efo fo yn ystod y blynyddoedd nesaf wrth i ni i gyd drio cyrraedd ffeinal un o'r cystadlaethau pwysig."

Er bod 'na sïon wedi bod y byddai Coleman yn gadael wedi'r gêm yn erbyn y Ffindir, mae o'n dweud mai arwain Cymru oedd beth oedd o wastad eisiau ei gwneud.

"Swydd orau yn y byd"

Wnaeth na neb o glwb Crystal Palace gysylltu efo fo i gynnig y swydd rheolwr iddo meddai a doedd o ddim wedi ei demptio i drio am y swydd.

"Dw i wastad wedi dweud mai dyma'r swydd orau yn y byd. Mae 'na dipyn o ddyfalu wedi bod amdana i yn ystod yr wythnosau diwethaf ond dyma oedd y swydd o'n i eisiau ei gwneud.

"Dw i'n teimlo bod ganddo ni fwy o waith i wneud. Mi oedd yna faterion o'n i eisiau trafod efo'r Gymdeithas Bel Droed, yr un peth o'i safbwynt nhw. Mae'r materion yna wedi eu datrys erbyn hyn."

Yn ystod cynhadledd i'r wasg dywedodd bod yna gyfnodau anodd wedi ei wynebu fel rheolwr ond hefyd cyfnodau da. "Dw i eisiau gorffen yr hyn dw i wedi cychwyn efo'r chwaraewyr."

Ei obaith ydy gorffen y flwyddyn gyda buddugoliaeth yn erbyn y Ffindir ddydd Sadwrn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol