'Dechrau da' i'r tymor twristiaeth yn ôl arolwg

  • Cyhoeddwyd
Abaty Glyn y GroesFfynhonnell y llun, Tony Gaynor
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr i Abaty Glyn y Groes

Mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod busnesau twristiaeth yng Nghymru wedi mwynhau dechrau llwyddiannus i'r tymor, a'u bod yn edrych ymlaen at yr haf.

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Croeso Cymru ymhlith busnesau twristiaeth, nododd 44% o'r busnesau eu bod wedi gweld mwy o ymwelwyr/gwesteion yn 2014 nag yn 2013.

Roedd 55% o'r busnesau a welodd gynnydd yn priodoli hynny i'r tywydd gwell, 25% i'r ffaith bod y Pasg yn hwyr eleni, a 7% i'w gwaith marchnata eu hunain.

Dywedodd 87% o'r busnesau eu bod yn teimlo'n hyderus wrth edrych ymlaen at dymor yr haf.

'Hyder'

Meddai Edwina Hart, y Gweinidog Twristiaeth: "Mae cyfnod llwyddiannus dros y Pasg yn ddechrau da i'r tymor bob amser. A dw i'n falch o weld bod hyder yn y diwydiant a'i fod yn edrych ymlaen at dymor yr haf.

"Mae Croeso Cymru yn parhau â'i waith marchnata ac mae'r ymgyrch newydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, gan gyrraedd ei thargedau ymateb yn barod. Gwelwyd llawer iawn mwy yn troi at y wefan ar ôl i'r ymgyrch gael ei lansio."

Dywedodd Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, ei fod wedi gweld cynnydd o 36% mewn ymwelwyr â'i safleoedd hanesyddol dros wyliau'r Pasg eleni, o gymharu â Phasg 2013.

Dros gyfnod o dair wythnos, ymwelodd dros 137,000 o bobl â'r 30 o henebion hynny o dan ofal Cadw, a gwelwyd cynnydd o 49% mewn taliadau mynediad o'i gymharu â Phasg 2013.

Roedd yr abatai Sistersaidd, Glyn y Groes ac Ystrad Fflur, ymhlith y safleoedd a welodd y cynnydd uchaf mewn ymwelwyr dros wyliau'r Pasg. Cododd nifer eu hymwelwyr o 77% a 69%.

Amcangyfrifir bod pobl sy'n ymweld â chestyll a mannau hanesyddol yng Nghymru yn gwario tua £450 miliwn y flwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol