Beirniadu hysbyseb twristiaeth sydd 'yn Gymraeg i gyd '

  • Cyhoeddwyd
Arwydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hysbyseb yn dangos nifer o olygfeydd o Gymru, gyda cherddoriaeth Gymreig yn y cefndir

Mae ffigwr blaenllaw yn y diwydiant twristiaeth wedi beirniadu hysbyseb deledu gan Croeso Cymru am ei bod "i gyd yn y Gymraeg".

Dywedodd Roger Burgess, Cadeirydd Cymdeithas Gweithredwyr Hunan Ddarpar Cymru, fod yr hysbyseb yn "creu argraff wych", ond yn gofyn gormod o'r gynulleidfa.

Mae hybysebion Croeso Cymru, dolen allanol yn dangos nifer o olygfeydd o Gymru, gyda cherddoriaeth Gymreig yn chwarae yn y cefndir.

Dywedodd Mr Burgess wrth ASau: "Y peth pwysicaf gydag unrhyw farchnata yw eich bod yn deall eich cynulleidfa.

"Roedden ni'n falch iawn gyda'r ymgyrch 'Have you packed your bag for Wales?'.

"Ond, ar ôl gwylio rhai o'r hysbysebion teledu, maen nhw'n creu argraff wych ond mae i gyd yn y Gymraeg.

"Felly os ydych chi'n ceisio denu'r Saeson neu'r Ffrancwyr neu'r Almaenwyr does dim is-deitlau, dim llais.

"Felly beth oedden nhw yn ceisio ei ddangos? Mae'n ymddangos eu bod yn gofyn gormod o'u cynulleidfa yn hytrach na gadael i'r wybodaeth yna datblygu."

Ymchwiliad

Roedd Mr Burgess yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad seneddol i'r ffordd y mae Cymru yn cael ei marchnata.

Clywodd ASau bod syniadau pobl o Gymru wedi newid ac nad oedden nhw wedi seilio ar stereoteipiau erbyn hyn - er bod pobl Ffrengig yn parhau i gysylltu Cymru â rygbi a phyllau glo.

Dywedodd uwch gyfarwyddwr Cynghrair Twristiaeth Cymru, Adrian Greason Walker, bod llawer o ymwelwyr o dramor yn amharod i logi car a gyrru ar yr hyn y maen nhw'n ei ystyried fel ochr 'anghywir' y ffordd.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David Davies, na fyddai ASau yn argymell bod Cymru yn newid i yrru ar ochr dde y ffordd.