Arestio plentyn bob pedwar munud
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn yn cael ei arestio yng Nghymru a Lloegr bob pedwar munud ar gyfartaledd, yn ôl yr elusen The Howard League.
Datgelodd yr elusen, sy'n ymgyrchu am ddiwygio'r system garchardai, bod nifer y plant gafodd eu harestio wedi gostwng 59% dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae ymchwil a gyhoeddwyd ganddyn nhw ddydd Mawrth yn dangos fod pob heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi arestio llai o blant yn 2013 nag y gwnaethon nhw yn 2008.
Yn ôl yr Howard League mae hynny o ganlyniad i'w hymgyrch nhw i gadw cynifer o blant â phosib allan o'r system gyfiawnder troseddol, gan fod nifer o heddluoedd wedi adolygu eu systemau arestio a'u polisïau o ganlyniad i drafodaethau gyda'r elusen.
Er hynny mae'r Howard League yn dweud fod arestio plant yn llawer rhy gyffredin o hyd, a bod 129,274 plentyn 17 oed neu lai wedi cael ei arestio yng Nghymru a Lloegr yn 2013.
Mae'r ffigwr yna yn cynnwys 1,107 o blant oedd yn 10 neu 11 oed, sy'n golygu bod tri phlentyn oed ysgol gynradd yn cael ei arestio bob dydd.
Dywedodd prif weithredwr yr Howard League for Penal Reform, Frances Crook: "Mae'n galonogol gweld bod heddluoedd wedi lleihau nifer arestiadau plant ers 2008, diolch yn rhannol i'n hymgyrchu effeithiol.
"Mae mwyafrif yr heddluoedd wedi datblygu cynlluniau llwyddiannus yn lleol i ddatrys materion yn gyflym ac yn rhad gan ddod â dioddefwyr yn rhan o'r broses gyfiawnder ac osgoi gwneud bechgyn a merched yn droseddwyr.
"Yr her i heddluoedd nawr yw parhau gyda'r tueddiad yma. Mewn cyfnod o wasgfa, byddai lleihau nifer y plant sy'n cael eu harestio yn rhyddhau plismyn i ddelio gyda throseddau difrifol."
Yng Nghymru a Lloegr, gall plant gael eu harestio pan maen nhw'n 10 oed - yr oed isaf am 'gyfrifoldeb troseddol' yng ngorllewin Ewrop.
Mae'r Howard League yn argymell codi'r oed yna i 14 yn unol â chyfartaledd Ewrop, ac mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant wedi dweud bod oed 'cyfrifoldeb troseddol' o lai na 12 oed yn annerbyniol.