Cymru annibynnol?
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfres newydd ar BBC Radio Cymru, mae'r bargyfreithiwr Gwion Lewis yn ystyried a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol.
Wrth i etholwyr yr Alban baratoi i bledleisio mewn refferendwm ar annibyniaeth ym mis Medi bydd Gwion yn teithio ar hyd a lled y DU i geisio clywed a fyddai hi'n ymarferol i Gymru fod yn wladwriaeth allai sefyll ar ei thraed ei hun.
Yn ystod y gyfres hefyd bydd Gwion Lewis yn rhannu ei gasgliadau gyda BBC Cymru Fyw:
Annibyniaeth i Gymru?
Ydw i o blaid annibyniaeth i Gymru? Mae'n gwestiwn amserol i bob Cymro a Chymraes. Mewn tri mis, bydd pobl yr Alban yn penderfynu a ydyn nhw o blaid gadael y Deyrnas Gyfunol a sefydlu gwlad annibynnol newydd. Fel un a gafodd ei fagu yn Sir Fôn mewn cartref gwladgarol Cymreig, rydw i'n teimlo rhyw ddyletswydd bron i ddatgan yn ddi-flewyn-ar-dafod fod angen i Gymru fod yn annibynnol hefyd. Ond a fydden ni'r Cymry yn fwy ffyniannus pe bydden ni'n llywodraethu ein hunain yn llwyr?
Un peth yw rhoi'r ddadl ddiwylliannol ac emosiynol fod angen i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun, ond peth arall yw'r darlun economaidd. Rydw i'n gweithio fel bargyfreithiwr yn Llundain ers deng mlynedd bellach ac wedi teimlo ers peth amser nad oes gen i atebion digon da pan fydd pobl yma'n fy holi ynglŷn ag economi Cymru.
Dibyniaeth ar Loegr?
Ar y cyfan, dydy'r Cymry, heddiw, ddim yn genedl o fentergarwyr. Oherwydd hynny, rydw i wedi clywed y ddadl fwy nag unwaith y dylsai'r Cymry fod yn "ddiolchgar" eu bod yn byw mor agos i un o bwerdai economaidd mwya'r byd, Llundain, gan mai'r fan hyn y mae'r cyfoeth sydd, maes o law, yn cynnal llawer o wasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael ei greu. Ai ffwlbri, felly, fyddai i'r Cymry bellhau eu hunain o'r pwerdy hwnnw, ynteu a fyddai annibyniaeth yn agor y drws i gyfleoedd newydd gan hyrwyddo'r union fentergarwch sydd wedi bod yn brin hyd yma?
Dywed eraill nad yw mentergarwch ynddo'i hun yn ddigon: rhaid wrth adnoddau naturiol sylweddol, medden nhw, os yw gwlad am ffynnu fel gwlad annibynnol. Yn yr Alban eleni, mae ffynonellau olew'r wlad yn un o'r prif bynciau trafod. Ar yr olwg gyntaf, nid yw'n ymddangos ein bod ni'r Cymry mor ffodus o safbwynt ein hadnoddau naturiol. Ai'r peth doethaf, felly, fyddai i ni dderbyn hynny a pharhau'n rhan o glwb Prydeinig mwy pwerus na ni ein hunain? Ynteu a oes yna, o dan yr wyneb, botensial o safbwynt adnoddau naturiol Cymru nad sydd eto wedi cael digon o sylw, gan nad yw'r Cymry eu hunain yn feistri arnynt?
Yn ôl i'r aelwyd
Dyma rai o'r cwestiynau y byddai'n mynnu atebion iddyn nhw yn y gyfres Annibyniaeth ar BBC Radio Cymru wrth i mi fynd ar daith ar draws Prydain Fawr yn trafod goblygiadau posibl y refferendwm yn yr Alban eleni ar gyfer dyfodol Cymru. Rwy'n cychwyn fy nhaith drwy deithio o Lundain i gartref fy rhieni yn Llangefni, Sir Fôn. A fydd yna groeso cynnes i'r mab sy'n cwestiynu un o brif ddaliadau'r teulu?
Annibyniaeth, BBC Radio Cymru 12.31pm Dydd Llun 2 Mehefin. Ail-ddarllediad 17.02 Dydd Sul 8 Mehefin.
Mi fedrwch chi wrando eto ar wefan BBC Radio Cymru