Cannoedd mewn dwy brotest wahanol yn y Drenewydd

Roedd tua 400 o bobl yn rhan o orymdaith 'stopio'r cychod'
- Cyhoeddwyd
Roedd tua 600 o bobl mewn dwy brotest wahanol yn y Drenewydd ym Mhowys ddydd Sadwrn.
Cafodd gorymdaith ei chynnal trwy'r dref, a chafodd ei threfnu gan bwyllgor lleol a'i hysbysebu fel protest 'stopio'r cychod' – roedd tua 400 o bobl yn bresennol.
Bu'r protestwyr yn llafarganu sloganau yn beirniadu Syr Keir Starmer, y Prif Weinidog a'r llywodraeth Lafur yn San Steffan, a chawson nhw eu hannerch gan Karl Lewis - cynghorydd sir o Bowys a adawodd y Blaid Geidwadol i ymuno â Reform UK ym mis Mawrth.
Yn ystod ei anerchiad, fe arweiniodd funud o dawelwch er cof am Charlie Kirk – yr ymgyrchydd a dylanwadwr asgell dde, a gafodd ei saethu a'i ladd mewn digwyddiad prifysgol yn Utah, yr Unol Daleithiau ddydd Mercher.

Roedd tua 200 o bobl yn bresennol mewn gwrth-brotest yn erbyn yr orymdaith gerllaw
Tra'r oedden nhw'n gorymdeithio drwy'r dref, cynhaliwyd gwrth-brotest mewn stryd gyfagos.
Roedd tua 200 o bobl yn bresennol yn yr wrth-brotest - rhai yn dal arwyddion gyda negeseuon o gefnogaeth i ffoaduriaid a mudwyr.
Anerchwyd y grŵp hwn gan nifer o siaradwyr, gan gynnwys Aelodau Seneddol - Steve Witherden AS Llafur dros Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, a Liz Saville Roberts Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.
Gofynnwyd i Heddlu Dyfed-Powys am eu hamcangyfrif o nifer y bobl a oedd yn bresennol, ac os oedd unrhyw un wedi cael ei arestio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.