Is-etholiad Caerffili yw'r 'pwysicaf' yng Nghymru ers yr 1960au

Yr Athro Richard Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na gymaint yn y fantol yn yr is-etholiad yma," medd yr Athro Richard Wyn Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae arbenigwr gwleidyddol blaenllaw yn dweud mai is-etholiad Caerffili yw'r is-etholiad pwysicaf yn ei fywyd gwleidyddol.

Ar bennod ddiweddaraf podlediad Gwleidydda BBC Radio Cymru, fe gymharodd yr Athro Richard Wyn Jones yr is-etholiad hwn gyda buddugoliaeth Plaid Cymru yng Nghaerfyrddin ym 1966.

Fe fydd is-etholiad Caerffili yn cael ei gynnal ar 23 Hydref yn dilyn marwolaeth yr aelod Llafur o'r Senedd Hefin David ym mis Awst.

Wrth drafod arwyddocâd y bleidlais, dwedodd Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Elliw Gwawr y "gallai'r etholiad yma ddangos newid trywydd go sylweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru".

Daw'r is-etholiad yn dilyn marwolaeth sydyn Mr David yn 47 oed.

Bu'n Aelod o'r Senedd ar ran y Blaid Lafur dros yr etholaeth ers 2016.

Mae Plaid Cymru wedi dewis cyn-arweinydd cyngor Caerffili, Lindsay Whittle, fel eu hymgeisydd, tra bod y cyhoeddwr a'r dadansoddwr ariannol o Gaerffili, Richard Tunnicliffe, yn sefyll dros Lafur.

Gareth Potter - fu'n gweithio yn y sectorau manwerthu ac elusennol cyn canolbwyntio ar wleidyddiaeth - yw ymgeisydd y Ceidwadwyr, a Llŷr Powell fydd ymgeisydd Reform UK.

'Mae yna gymaint yn y fantol'

Wrth gael ei holi gan Vaughan Roderick, fe gymharodd yr Athro Richard Wyn Jones yr is-etholiad yng Nghaerffili gyda thriawd o is-etholiadau arwyddocaol yn yr 1960au.

Fe gyfeiriodd yn benodol at yr is-etholiad yng Nghaerfyrddin yn 1966 pan gafodd Gwynfor Evans ei ethol i San Steffan.

"Dwi'n meddwl mai dyma yw'r is-etholiad pwysicaf ym mywyd gwleidyddol unrhyw un o'r tri ohonom ni, ag unrhyw un sy'n gwrando - hyd yn oed o'i gymharu gyda Caerfyrddin," meddai.

"Roedd y Blaid Lafur newydd ennill 60% o'r bleidlais yn yr etholiad cyffredinol oedd newydd gael ei gynnal. Hyd yn oed os oedd canlyniad Plaid Cymru ar y pryd yn rhyfeddol roedd yn anodd anwybyddu hegemoni'r Blaid Lafur.

"Erbyn rŵan mae'r holl arolygon barn yn awgrymu bod y ddominyddiaeth yma'n mynd i ddod i ben. Mae 'na gymaint yn y fantol yn yr is-etholiad yma."

Disgrifiad,

Gydag etholiad Senedd Cymru ym mis Mai yn prysur agosáu, fe ddwedodd Elliw Gwawr fod yr etholiad am roi syniad i ni o'r hyn sydd i ddod.

"Fe fydd yn gosod sylfaen i'r etholiad sydd i ddod ac er bod yna system bleidleisio wahanol, ac fe fydd y ffiniau'n wahanol, mae'n rhoi syniad i ni o'r ffordd mae'r gwynt yn chwythu," meddai.

"Mae hon yn sedd sydd wedi bod yn un Llafur ers dechrau'r Cynulliad, ond mae 'na bosibilrwydd gwirioneddol rŵan y gallen nhw golli."

Pynciau cysylltiedig