Diffyg cymorth dementia 'wedi synnu' pâr priod o Gaernarfon

Idwal Owens a'i wraig Moira
Disgrifiad o’r llun,

Mae Moira Owens o Gaernarfon yn gofalu am ei gŵr, Idwal ers sawl blwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gymdeithas Alzheimer's yn galw ar weinidogion i wneud dementia yn flaenoriaeth, ac yn dweud bod y system yn "methu pobl".

Mae ymchwil gan y gymdeithas yn awgrymu nad yw un o bob pump o bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia yn cael unrhyw gefnogaeth.

O ganlyniad, maen nhw am weld gweinidogion yn cyflwyno cynllun gweithredu newydd i fynd i'r afael â'r mater.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar gynllun o'r fath, a bydd yn ymgynghori arno cyn diwedd y flwyddyn.

Moira Owens
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Moira Owens na chafodd hi gefnogaeth ar ôl cael gwybod gan feddyg fod gan Idwal y cyflwr

Ar ôl 54 mlynedd o briodas, mae gan Idwal Owens a'i wraig Moira o Gaernarfon atgofion oes.

Ond chwe blynedd yn ôl, cafodd Mr Owens ddiagnosis o ddementia fasgwlaidd - math o ddementia sy'n arwain at ddirywiad cynyddol mewn gallu meddyliol.

Ond pan gafodd Idwal ddiagnosis, mae Moira'n dweud iddi gael ei gadael i fwrw ymlaen heb unrhyw gymorth ar ôl cael gwybod gan feddyg fod gan ei gŵr y cyflwr.

'Wedi fy synnu'

"Dywedodd yr ymgynghorydd: 'O ie, mae gan eich gŵr ddementia fasgwlaidd' ac nid o'n i wir yn barod am hynny," meddai Moira.

"Doeddwn i ddim wedi meddwl dim am ddementia.

"Felly dywedais wrtho 'beth wyt ti'n mynd i'w roi iddo?', 'o na, alla i ddim rhoi dim iddo,' meddai.

"'Felly beth ydw i fod i'w wneud?', 'o, byddwn ni'n rhoi taflenni i ti'."

Ychwanegodd Moira i'r staff roi "lwmp o daflenni i mi, ac yna ffarwelio, ysgwyd llaw ag allan drwy'r drws. Wel, roeddwn i wedi fy synnu mewn gwirionedd".

Idwal Owens a'i wraig Moira
Disgrifiad o’r llun,

Mae Idwal a Moira wedi priodi ers 54 mlynedd

Gofynnodd Cymdeithas Alzheimer's, sy'n cefnogi pobl â phob math o ddementia, i bobl â'r cyflwr, ynghyd â'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon am faint o gefnogaeth maen nhw'n ei derbyn.

Mae'r arolwg yn nodi:

  • Nad oedd 20% wedi cael unrhyw gefnogaeth ar ôl diagnosis.

  • Dim ond 29% a ddywedodd fod gofal sy'n gysylltiedig â dementia yn hawdd ei gael.

  • Tra bod 40% o bobl â dementia wedi dweud eu bod yn teimlo cywilydd ac yn teimlo bod y cyflwr wedi'i stigmateiddio.

Gemma Roberts
Disgrifiad o’r llun,

"Mae gennym gyfle enfawr i wneud gwahaniaeth mawr iawn i bobl sy'n byw gyda dementia," medd Gemma Roberts

Dywed Gemma Roberts o'r Gymdeithas Alzheimer's: "Mae yna lawer o bobl sy'n cael eu gadael lawr gan y system ac mae'r system yn methu pobl.

"Rydym yn sôn am fuddsoddi arian i helpu pobl i fyw'n dda yn eu cartrefi am yn hirach."

Mae'r gymdeithas eisiau i weinidogion gyflwyno Cynllun Gweithredu Dementia newydd i Gymru, ar ôl i'r un diwethaf ddod i ben dair blynedd yn ôl.

Ychwanegodd Ms Roberts: "Mae gennym gyfle enfawr i wneud gwahaniaeth mawr iawn i bobl sy'n byw gyda dementia.

"Mae gennym dystiolaeth newydd. Mae gennym ymchwil newydd. Mae yna bethau go iawn y gallwn eu gwneud i wneud gwahaniaeth pendant."

Dr Gary ChristopherFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Gary Christopher yn poeni am y ffordd y mae arian ymchwil yn cael ei wario

Yr wythnos hon daeth i'r amlwg y gallai prawf gwaed newydd ar gyfer clefyd Alzheimer's fod yn chwyldroadol i gael diagnosis.

Ond mae rhai arbenigwyr, fel Dr Gary Christopher o Brifysgol Abertawe, yn dweud eu bod yn poeni bod llawer o'r arian ymchwil yn cael ei wario ar chwilio am ffyrdd o wella pobl - yn hytrach na chanolbwyntio ar bobl sydd â'r cyflwr ar hyn o bryd.

"Mae llawer o'r arian ymchwil yn tueddu i fynd tuag at driniaeth a cheisio dod o hyd i iachâd yn hytrach na thwnelu'r arian hwnnw i arferion a allai fod o gymorth nawr," meddai Dr Christopher.

"Mae llawer o'r arian yn ymwneud ag achosion o ddementia yn y dyfodol, ond mae angen i ni helpu pobl nawr, oherwydd mae'n hanfodol bwysig helpu pobl i fyw'n dda a byw'n annibynnol cymaint â phosibl gyda'r cyflwr."

'Wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun newydd'

Dywed Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu Cynllun Gweithredu Dementia newydd i Gymru, sy'n adeiladu ar y cynllun presennol.

"Byddwn yn ymgynghori ar ddiwedd y flwyddyn i lywio ei ddatblygiad, a fydd yn tynnu ar brofiad pobl â dementia a'u teuluoedd.

"Mae dementia yn fater iechyd a gofal cymdeithasol sylweddol sy'n effeithio nid yn unig ar y rhai sy'n byw gyda dementia, ond ar eu teuluoedd, eu ffrindiau a'u gofalwyr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.