Cofrestr mabwysiadu cenedlaethol

  • Cyhoeddwyd
A person holds a baby's hand
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwasanaeth yn lleihau'r oedi yn y system meddai'r llywodraeth

Mi fydd gwasanaeth mabwysiadu newydd yn dechrau yng Nghymru a'r nod ydy cyflymu'r broses ar gyfer y plant a'r rhieni.

Cam cyntaf Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ydy cofrestr newydd ar y we sydd yn golygu y bydd asiantaethau mabwysiadu yn medru gweld pwy yw'r plant sydd yn disgwyl i gael eu mabwysiadu a'r darpar rieni addas.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mi fydd y gwasanaeth yn cynyddu'r nifer o ddarpar rieni ac yn cynnig help iddyn nhw am gyfnod ar ôl iddyn nhw fabwysiadu.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd yna fwy o gydweithio ar draws gwasanaethau ac y bydd y broses o baru plentyn efo rhieni addas yn gwella.

Fe fydd y gwasanaeth yn dechrau ym mis Tachwedd.

Yn 2012 mi ddywedodd un o bwyllgorau'r Cynulliad bod angen i'r Gwasanaeth Cenedlaethol fod â chyfrifoldeb am ystod o elfennau mabwysiadu a chynnig gwell cefnogaeth i deuluoedd sy'n mabwysiadu.

Roedd yr adroddiad yn dweud bod yna anghysondeb yn y ffordd yr oedd y gwasanaethau mabwysiadu yn cael eu gweithredu mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru.

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas yn cydnabod fod yna broblemau yn y system bresennol:

"Rwy'n ymwybodol o'r oedi yn y system fabwysiadu ac rwy'n dal i fod yn bryderus am y niwed parhaol y gallai hyn ei gael ar blant, gan eu hamddifadu o'r cyfle gorau am gariad a sefydlogrwydd teulu newydd."

Newid er gwell

"Rwy'n gwrthod derbyn bod modd i blant fynd ar goll yn y system gofal ac rwy'n disgwyl gweld datblygiad yn hyn o beth yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf wrth i'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol godi safonau a gwella perfformiad.

"Dyna pam bod angen inni wneud newid sylweddol yn y ffordd y caiff gwasanaethau mabwysiadu eu darparu.

"Drwy sefydlu Gwasanaeth Cenedlaethol, a fydd â'r pwer i ddarparu gwasanaethau ar draws Cymru, rydyn ni'n gwireddu'r newid hwnnw.

"Bydd y gwasanaeth newydd yn rhoi sylw i bryderon cyfredol heb golli gwir gryfderau'r system bresennol, gan sicrhau newid heb unrhyw amharu ar y gwasanaeth."

British Association for Adoption gafodd ei ddewis i redeg y gofrestr cenedlaethol. Yn ôl cyfarwyddwr y corff, Wendy Keidan, mae'r gofrestr yn rhan bwysig o'r gwasanaeth newydd:

"Ei phrif amcan yw lleihau'r oedi wrth baru plant a mabwysiadwyr sy'n byw yng Nghymru.

"Rydyn ni'n teimlo'n gyffrous iawn i fod yn gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol i sicrhau y bydd y Gofrestr yn cyfrannu at ddod o hyd i deuluoedd 'am byth' cyn gynted â phosib i blant yng Nghymru sy'n aros am gartref cariadus gyda rhieni sydd wedi'u mabwysiadu nhw."

'Amserlen glir'

Fe ddywedodd Anne-Marie Carney, rheolwr elusen After Adoption yng Nghymru:

"Mae angen croesawu'r cyhoeddiad - mae'n gosod amserlen glir i lansio'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

"Mae'r tîm yn After Adoption wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda'n cyd-weithwyr yn y trydydd sector a'r awdurdodau lleol er mwyn gwneud yn siwr fod gan bawb sydd wedi eu heffeithio gan fabwysiadu y gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau llwyddiant hir-dymor."