Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Ymchwiliad gan brif was sifil
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol i gynnal ymchwiliad ar ôl i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies ysgrifennu at swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynglŷn â phrosiect i adeiladu trac rasio enfawr yn ei etholaeth.
Mae disgwyl i Derek Jones gyflwyno adroddiad i'r prif weinidog o fewn pythefnos.
Dywedodd y prif weinidog: "Mae pryderon wedi eu mynegi yn ddiweddar am ymddygiad un o fy Ngweinidogion ac os yw ei rôl fel aelod etholaethol wedi gwrthdaro gyda'i swydd fel Gweinidog.
"Ar sail hyn, rwyf heddiw wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol i edrych ar y ffeithiau ynghylch y mater hwn.
"Rwyf wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ymateb i mi o fewn pythefnos. Fe wnaf ddiweddaru aelodau maes o law."
Fe wrthododd Carwyn Jones wneud sylw pellach mewn sesiwn holi yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth.
Llythyr
Mae'r cynlluniau i fuddsoddi £280 miliwn i adeiladu'r trac ger Glyn Ebwy wedi ysgogi gwrthwynebiad arbenigwyr a gwleidyddion.
Ar un adeg roedd asiantaeth CNC yn erbyn y cynllun ond yn hwyrach fe ddywedodd swyddogion eu bod yn fwy bodlon ar effaith y prosiect ar yr amgylchedd.
Datgelwyd fod y gweinidog, yn rhinwedd ei waith fel Aelod Cynulliad lleol, wedi ysgrifennu at CNC yn "mynegi pryder am brosesau" yr asiantaeth.
Fe ddaeth y llythyr i'r golwg ar ôl i Gareth Clubb, ymgyrchydd Cyfeillion y Ddaear, wneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mewn ymateb i gyhoeddiad y prif weinidog, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru: "Mae'r rhain yn honiadau difrifol fod Gweinidog Llafur wedi defnyddio ei swydd fel gweinidog i sicrhau mantais yn ei etholaeth.
"Rwy'n llongyfarch fy nghydweithiwr Antoinette Sandbach, a ysgrifennodd at y Prif Weinidog i sôn am ei phryderon ac ysgogi Carwyn Jones i lansio ymchwiliad.
"Rydym yn aros am gasgliadau'r Ysgrifennydd Parhaol i weld a yw'r cod gweinidogol wedi'i dorri yn yr achos hwn ac yn gobeithio bydd yr ymchwiliad hwn wedi'i gwblhau'n brydlon."
Wrth ymateb i'r ymchwiliad fe wadodd Graham Hillier, un o gyfarwyddwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod wedi newid eu safbwynt ar y cynllun.
Dywedodd Mr Hillier: "Nid ydym wedi newid ein meddwl ar y mater. Yr hyn sydd wedi newid yw faint o wybodaeth gawsom gan y datblygwyr yn ystod y broses gynllunio.
"Rydym wedi cwrdd ag Alun Davies yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Cynulliad Blaenau Gwent. Mae hyn yn beth arferol, rydym yn cwrdd ag Aelodau Cynulliad yn aml ynglŷn â materion etholaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2014