TB: Cynllun brechu yn effeithiol?

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daear
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun brechu moch daear yn canolbwyntio ar ardal sy'n cynnwys rhannau o Benfro, Ceredigion a Sir Gâr

Bydd cynhadledd fyd-eang ar sut i reoli'r diciâu mewn gwartheg yn dechrau yng Nghaerdydd ddydd Llun, ond nid yw'n glir eto pa mor effeithiol yw cynllun brechu moch daear yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru ar y drydedd flwyddyn o gynllun pum mlynedd i frechu moch daear er mwyn ceisio taclo'r haint.

Ond er bod graddfa heintio'r clefyd yng Nghymru yn disgyn, mae prif filfeddyg Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod yn rhy gynnar i ddweud os yw'r cynllun yn "fudd ychwanegol".

'Dim tystiolaeth'

Roedd Dr Christianne Glossop yn siarad ar raglen Sunday Politics Wales pan ddywedodd:

"Mae'n gynllun pum mlynedd. Rydym wedi cwblhau dwy flynedd ac yng nghanol y drydedd felly dyw'r canlyniadau ddim ar gael eto."

Mae cynllun brechu moch daear Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar Ardal Weithredu Dwys (IAA) yng ngogledd Sir Benfro ynghyd â rhannau o Geredigion a Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Dr Glossop bod graddfa heintio'r diciâu wedi disgyn ar draws Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ond ychwanegodd:

"Mae'r gostyngiad yng ngogledd Penfro yn unol â'r gostyngiad ar draws y wlad felly ar hyn o bryd does dim tystiolaeth bod y cynllun brechu moch daear yn rhoi unrhyw fudd ychwanegol... ond fydden ni ddim yn disgwyl gweld tystiolaeth ar hyn o bryd chwaith."

'Taclo pob ffynhonnell'

Yn 2012 a 2013 fe gafodd 2,776 o foch daear eu dal a'u brechu yn yr IAA ar gost o dros £1.8 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gwario tua £4.6 miliwn ar y cynllun brechu dros y pum mlynedd.

Cafodd y cynllun brechu ei gyhoeddi gan weinidogion Llafur yn 2012 wedi iddyn nhw roi'r gorau i gynllun y llywodraeth glymblaid flaenorol i ddifa moch daear yn yr IAA.

Rhybuddiodd Dr Glossop bod y cynllun ehangach i gael gwared ar y diciâu wedi costio £28 miliwn ar gyfer y llynedd yn unig - mae hynny'n cynnwys cynnal profion ar wartheg, mesurau bioddiogelwch a digolledi ffermwyr.

"Rhaid i chi gael cydbwysedd rhwng holl elfennau'r rhaglen," ychwanegodd. "Rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn taclo pob ffynhonnell posib o'r haint."

Bydd Dr Glossop yn siarad yn agoriad y gynhadledd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd am 13:00 ddydd Llun, a bydd y gynhadledd yn para tan ddydd iau, 19 Mehefin.