Rhannu costau brechu moch daear

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daear
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd bron i £1m ei wario ar frechu moch daear yn ne orllewin Cymru y llynedd, £600 i bob anifail

Mae prif filfeddyg Cymru wedi cydnabod bod y broses bresennol o frechu moch daear yn rhy ddrud, gan alw am rannu'r gost o frechu.

Ym mlwyddyn gyntaf rhaglen frechu'r llywodraeth, cafodd bron i £1 miliwn ei wario mewn un ardal frechu ddwys yn ne orllewin Cymru, gyda 60% o hynny yn cael ei wario ar gostau staffio.

Llynedd, cafodd 1,400 o foch daear eu brechu ar gost o £600 yr un.

Ond byddai'n rhy ddrud i weithredu cynllun tebyg dros Gymru, ac felly mae'r llywodraeth yn galw ar ffermwyr ac elusennau i rannu'r gost.

Grantiau

Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £250,000 y flwyddyn am y 5 mlynedd nesaf i'w roi mewn grantiau i elusennau a ffermwyr i helpu gyda chostau brechu.

Y bwriad yw y bydd elusennau, ffermwyr a pherchnogion tir hefyd yn cyfrannu at y gost, unai yn ariannol neu drwy helpu i staffio'r gwaith.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru Dr Christianne Glossop bod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies wedi gofyn am syniadau am sut i ehangu'r cynllun brechu dros Gymru.

"Mae'r gweinidog nawr wedi cytuno i greu cronfa fydd yn cefnogi'r gwaith brechu gyda grantiau," meddai.

Mae'r cynllun yn golygu £1.25 miliwn o wariant ychwanegol gan y Llywodraeth dros y 5 mlynedd nesaf, yn ogystal â'r hyn sydd wedi ei addo yn barod fel rhan o'r cynllun brechu gwreiddiol.

Er y costau uchel, mae'r prif filfeddyg wedi amddiffyn y cynllun.

"Mae angen i ni ddefnyddio arian y llywodraeth yn y modd gorau posib," meddai.

"Ond roedden ni'n ymwybodol bod brechu yn broses ddrud ers y dechrau, ac roedd angen i ni sicrhau bod yr holl fanylion yn gywir yn yr ardal gyntaf yn ne Cymru."

Ni fyddai'r Llywodraeth yn gallu talu costau mor uchel dros Gymru, ac mae'r cynllun yma yn ceisio sicrhau bod y costau yn cael eu rhannu rhwng elusennau, ffermwyr a pherchnogion y tir yn y dyfodol.

Ymateb

Dywedodd dirprwy bennaeth NFU Cymru, Stephen James:

"Fel undeb dydyn ni erioed wedi gwrthwynebu brechu, ond pan mae'r gost dros £600 i bob anifail dydy hynny ddim yn fforddiadwy i ffermwyr cyffredinol."

"Os oes modd lleihau'r gost, ac rydyn ni'n ffyddiog bod brechu yn gweithio, bydd llawer o ffermwyr yn gefnogol."

Bydd ymgynghoriad ar y cynllun yn cael ei gynnal nawr fydd yn rhoi cyfle i awdurdodau amaethyddol roi eu barn.