Ymgyrch £200,000 i achub pwll nofio Arberth, Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Cyfeillion Pwll Arberth
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn gobeithio gallu cadw'r pwll yn agored fel menter gymunedol

Mae trigolion Arberth yn ceisio codi £200,000 erbyn diwedd mis Mehefin i achub pwll nofio'r dref.

Fe wnaeth Cyngor Sir Penfro benderfynu dod â'u cefnogaeth ariannol i'r pwll i ben oherwydd toriadau ariannol.

Nawr mae 'na ymdrechion ar y gweill i godi digon o arian i gynnal y safle fel menter gymunedol.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i osod boeler biomas newydd ac i wneud y pwll yn fwy cynaliadwy.

Fe wnaeth cabinet Penfro gynnal pleidlais ym mis Rhagfyr i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol y pwll - a hynny gyda'r bwriad i gau'r safle ar 1 Ebrill.

Mae'r sir yn ceisio gwneud arbedion o £20 miliwn drwy dorri'n ôl ar wahanol wasanaethau.

Yn ogystal â gosod y boeler newydd, bwriad Cyfeillion Pwll Arberth yw gosod paneli solar er mwyn torri ar y costau o gynnal y pwll.

'Realistig'

Cafodd y pwll ei gadw yn agored tra bod pobl leol yn ceisio llunio pecyn i achub y safle.

Mae'r cyngor sir wedi derbyn cynllun busnes gan Gyfeillion Pwll Arberth - ond nawr mae'n rhaid i'r ymgyrchwyr godi'r arian angenrheidiol.

Dywedodd Sue Rees, Cadeirydd y Cyfeillion: "Mae'r cynllun yn un realistig. Mae'n rhaid i ni brofi i'r cyngor sir ein bod yn gallu codi'r arian.

"Ar hyn o bryd ry'n ni'n gwneud yn eitha' da, ond mae angen i unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â ni a phrynu cyfranddaliadau. "

Cafodd y pwll 20 metr ei agor yn 1973.

Dywedodd y cynghorydd Elwyn Morse, aelod o gabinet y sir sydd â chyfrifoldeb am hamdden, fod y cyngor yn awyddus i sicrhau cynllun fydd yn achub y pwll.

"Fe wnaethon ni roi estyniad o dri mis i'r grŵp... amser ychwanegol er mwyn iddyn nhw ddod o hyd i'r arian."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol