Albwm Cymraeg y Flwyddyn: Rhestr fer

  • Cyhoeddwyd
Mae gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael ei chyflwyno ym Maes B yn ystod wythnos yr Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn cael ei chyflwyno ym Maes B yn ystod wythnos yr Eisteddfod

Mae'r rhestr fer gyntaf ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn "gymysgedd eclectig", yn ôl trefnwyr y wobr.

Bwriad y wobr yw rhoi "sylw cymwys" i gerddoriaeth sydd wedi'i recordio neu'i ryddhau yn ystod y cyfnod o 1 Mawrth 2013 hyd at 28 Chwefror eleni.

Bydd yn cael ei chyflwyno yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar Awst 7.

Y rhestr fer, a luniwyd gan "reithgor o unigolion sy'n ymwneud gyda'r diwydiant cerdd yma yng Nghymru", yw:

•Alaw - Melody (Taith Records)

•Bromas - Byr Dymor (Rasp)

•Candelas - Candelas (label annibynnol)

•DnA - Adnabod (Fflach Tradd)

•Gildas - Sgwennu Stori (Sbrigyn Ymborth)

•Gwenan Gibbard - Cerdd Dannau (Sain)

•Llwybr Llaethog - Dub Cymraeg (Neud Nid Deud)

•Plu (Sbrigyn Ymborth)

•The Gentle Good - Y Bardd Anfarwol (Bubblewrap Records)

•Yr Ods - Llithro (Copa)

Wrth gyhoeddi'r rhestr dywedodd un o drefnwyr y wobr, Guto Brychan: "Datblygwyd y syniad o Wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn gan fod yr Eisteddfod yn awyddus i roi sylw haeddiannol i gerddoriaeth sydd wedi'i recordio neu'i chreu'n ddiweddar.

"Mae nifer o wahanol ddisgyblaethau'n cael eu gwobrwyo yn yr Eisteddfod, ac mae gwobrau'n bodoli ar gyfer mathau arbennig o gerddoriaeth, ond ein bwriad ni yw dathlu pob math o gerddoriaeth sy'n cael ei chreu yn y Gymraeg ar hyn o bryd".

Bydd yr enillydd yn derbyn tlws wedi'i gomisiynu'n arbennig.

Cliciwch yma i weld oriel luniau o'r artistiaid sydd ar y rhestr fer a darllen sylwadau'r blogiwr Owain Gruffydd am yr albyms