Llofruddio mewn tafarn: Carchar am oes i Prevete
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr ymosodiad ei ddisgrifio yn y llys fel un "cynddeiriog".
Mae Francesco John Prevete wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio bocsiwr amatur mewn tafarn yn Wrecsam.
Bydd rhaid iddo dreulio o leiaf 23 mlynedd yn y carchar.
Cafodd Craig Harold Maddocks, 34 o Llai ger Wrecsam, ei drywanu dros 50 o weithiau ym mis Mehefin 2013, a bu farw o'i anafiadau.
Roedd Prevete, 46 o Wrecsam, wedi gwadu trywanu Mr Maddocks yn nhoiledau tafarn y Cambrian Vaults.
Cafwyd yn euog gan y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi tair awr a hanner o drafod.

Cafodd Craig Maddocks ei ladd yn y Cambrian Vaults yn 2013
Mewn datganiad, dywedodd teulu Craig Maddocks: "Mae ein bywydau wedi bod yn gwbl annioddefol y 12 mis diwethaf o ganlyniad i lofruddiaeth ein mab.
"Roedd Craig yn caru bywyd ac wrth ei fodd yn gwneud i bobl wenu.
"Roedd ei holl deulu a'i ffrindiau yn ei garu.
"Ni fydd ein bywydau'r un fath eto."
Roedd Mr Maddocks wedi bod mewn perthynas gyda nith Prevete yn y gorffennol, ac roedd ganddo blentyn gyda hi.
Clywodd y llys bod Mr Maddocks a Prevete wedi mynd i'r toiledau i gymryd cocên pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Cafodd yr ymosodiad ei ddisgrifio yn y llys fel un "cynddeiriog".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2014