Codi cyflogau miliwn mewn gwaith er mwyn lleihau tlodi

  • Cyhoeddwyd
Arian
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflog byw yn uwch na'r isafswm cyflog cyfreithiol a'r gobaith yw codi cyflogau i sicrhau bod miliwn yn llai mewn tlodi

Mae'r Comisiwn Cyflog Byw, dan arweinyddiaeth Archesgob Efrog, John Sentamu, wedi cyhoeddi cynllun i sicrhau na fydd miliwn o bobl mewn tlodi, drwy ymestyn y cyflog byw.

Yn ôl y comisiwn, os na fydd y llywodraeth yn San Steffan yn cefnogi ymestyn y cyflog byw yn wirfoddol, bydd rhaid i rai teuluoedd sydd mewn gwaith barhau i fod yn ddibynnol ar fesurau brys fel banciau bwyd.

Yng Nghymru mae 237,000 o bobl yn cael cyflog sy'n llai na chyflog byw, 22% o'r gweithlu.

Mae'r cyflog byw yn uwch na'r isafswm cyflog cyfreithiol, sef £6.31 yr awr i'r rheini dros 21 oed, ac wedi'i bennu ar lefel fydd yn gadael i weithwyr allu talu am safon byw sylfaenol.

Ar gyfer pob ardal o'r Deyrnas Unedig, y tu allan i Lundain, mae'r cyflog byw yn £7.63 yr awr, tra ei fod yn £8.80 ar gyfer Llundain.

Yn ôl adroddiad terfynol y comisiwn, mae modd i filiwn o bobl sydd mewn gwaith beidio â bod mewn tlodi drwy sicrhau eu bod yn derbyn cyflog byw, a hynny heb niweidio'r economi.

Cyflwyno erbyn 2020

Byddai modd codi cyflogau dros 500,000 o weithwyr yn y sector gyhoeddus a 600,000 o weithwyr yn y sector preifat i'r cyflog byw, a byddai'r cynnydd mewn treth a lleihad mewn budd-daliadau i'r rheini mewn gwaith yn fwy na digon i dalu am y codiad yma.

Er mwyn cyrraedd y nod o godi miliwn o bobl allan o dlodi erbyn 2020, mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r llywodraeth anelu at annog miliwn yn fwy o fusnesau i gyflwyno'r cyflog byw i'w gweithwyr erbyn 2020.

Mae'r comisiwn yn rhybuddio y byddai methu cyrraedd y nod o annog mwy o fusnesau i ymuno'n wirfoddol â'r cynllun, yn golygu bod pobl mewn gwaith yn parhau i wynebu trafferthion ariannol difrifol.

Ar hyn o bryd mae 5.2 miliwn o bobl yn ennill llai na'r cyflog byw ac mae'r mwyafrif o bobl sy'n byw mewn tlodi mewn gwaith.

Mae'r comisiwn yn credu y byddai cynyddu'r nifer sy'n derbyn y cyflog byw yn gwella ysbryd gweithwyr a lefelau gwaith ynghyd â lleihau nifer y gweithwyr sy'n gadael busnesau.

Er hyn, nid yw'r comisiwn yn credu y dylai'r cyflog byw fod yn system orfodol, oherwydd na fyddai rhai sectorau megis manwerthu, a busnesau bychain yn gallu dygymod â'r costau ychwanegol.

Atebion hir dymor

Wrth ymateb mae'r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable wedi dweud nad yw'r cyflog byw yn ystyried yr effaith y gall cynnydd mewn cyflogau ei gael ar y cyfleoedd am swyddi i'r rhai sy'n derbyn y cyflog isaf.

Er mwyn cynyddu safonau byw mae'r llywodraeth, meddai, wedi cwtogi trethi ac o fis Hydref bydd y rhai sy'n derbyn yr isafswm cyflog yn gweld cynnydd yn eu cyflog am y tro cyntaf ers 2008.

Fe ddywedodd Katja Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y CBI bod hi'n iawn edrych ar y ffyrdd gorau i sicrhau twf budd-dal i bawb ond "bod angen atebion hir dymor dim ateb tymor byr a allai greu niwed i gyfloedd cyflogaeth".

"Rhaid i gyflogau adlewyrchu cynnyrch. Tra bod rhai cwmniau yn gallu fforddio talu mwy - neu gynnig budd-daliadau fel rhan o'r pecyn - fydd o ddim yn realistig i bawb.

"O ganlyniad mae'n allweddol bod cyflog byw yn wirfoddol. Mae isafswm cyflog wedi bod yn llwyddiant a'r ffordd orau o godi cyflogau i'r rhai ar gyflogau isel yw drwy eu hannog i ddatblygu o fewn y swydd."