Cyngor i ymweld â'r Tŷ Crwn cyn penderfyniad terfynol
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yn Sir Benfro wedi cytuno na fydd penderfyniad am dŷ crwn dadleuol yn cael ei wneud cyn iddyn nhw ymweld â'r safle.
Cafodd y tŷ, Pwll Broga, ei adeiladu yng Nglandŵr ger Crymych heb ganiatâd cynllunio.
Roedd y perchnogion, Megan Williams a'i phartner Charlie Hague, wedi cyflwyno cais cynllunio ôl-weithredol ar ôl i'r cyngor ddweud ei fod yn amharu ar yr olygfa leol.
Roedd disgwyl i gynghorwyr wneud penderfyniad terfynol ddydd Mawrth, ond cytunodd y cynghorwyr i ymweld â'r tŷ ym mis Gorffennaf cyn penderfynu.
Dim ond deunyddiau lleol wnaeth Mr Hague, sy'n gerflunydd, eu defnyddio i adeiladu'r tŷ ac mae'r waliau wedi eu gwneud o wellt a'r to o wair.
Mae'r tŷ'r drws nesa i'r pentref gwyrdd Lammas lle mae nifer o gartrefi bychan wedi eu dylunio er mwyn bod yn hunangynhaliol.
Mae BBC Cymru'n deall bod swyddogion y cyngor wedi argymell bod y cais yn cael ei wrthod am fod yr adeilad yn ddatblygiad preswyl heb gyfiawnhad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2014