Torri cyflogau: 'bydd nifer o ymgynghorwyr yn gadael'

  • Cyhoeddwyd
Meddygiaeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r BMA wedi dweud y gallai problemau recriwtio waethygu os yw'r newid yn digwydd

Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) wedi rhybuddio y gallai nifer o ymgynghorwyr adael Cymru oherwydd bod y llywodraeth yn bwriadu torri eu cyflog.

Yn eu cynhadledd flynyddol maen nhw wedi rhybuddio y gallai newidiadau posib' i raddfeydd tâl arwain at feddygon yng Nghymru yn derbyn 5% yn llai na rhai yng ngweddill y DU.

Maen nhw'n honni y gallai colli meddygon effeithio ar ddiogelwch cleifion.

Gwadodd Llywodraeth Cymru, sy' ddim yn derbyn ffigyrau'r mudiad, fod unrhyw fwriad i dorri cyflogau.

'Dim gwerthfawrogiad'

Mae ymgynghorwyr wedi dweud eu bod yn teimlo nad ydyn nhw'n cael eu "gwerthfawrogi" wrth iddyn nhw frwydro i ddarparu gofal safonol ar adeg cyni economaidd.

Yn ddiweddar, argymhellodd y corff adolygu tâl godi cyflogau staff y GIG 1% ledled y DU.

Fe gafodd hwn ei weithredu yn yr Alban ond nid yn Lloegr benderfynodd nad oedd modd cynyddu cyflogau heb dorri swyddi.

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried y mater ar hyn o bryd.

£12m

Mae rhai'n amau nad ydyn nhw am wario cyfradd uwch na Lloegr ar dâl ac mae'r BMA yn ofni y byddai toriad o £12 miliwn i'r bil cyflogau meddygol.

Gallai hyn arwain at doriad o £5,000 y flwyddyn i ymgynghorydd sy'n ennill £100,000 ar hyn o bryd.

Yn ôl y BMA, mae chwarter ymgynghorwyr Cymru wedi ysgrifennu atyn nhw i fynegi pryder am y sefyllfa.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi siomi oherwydd penderfyniad y mudiad i wrthod trafod y mater mewn cyfarfodydd.

'Dim bwriad'

Ychwanegodd llefarydd: "Rydym wedi derbyn argymhelliad y corff adolygu tâl ac yn gweithio gyda chynrychiolwyr cyrff proffesiynol ac undebau llafur i weld sut y gallai swm cyfatebol i'r hyn sydd ar gael yn Lloegr gael ei rannu i staff y GIG yng Nghymru.

"Does dim bwriad i dorri tâl ymgynghorwyr.

"Rydym yn rhannu nod y BMA o barhau i wella gofal ond yn gresynu eu bod wedi methu â dod at y bwrdd i drafod gyda chyflogwyr GIG yng Nghymru am ddiwygio telerau cytundebau ymgynghorwyr Cymreig.

"... rydym nawr yn ystyried sut y gallwn ni sicrhau bod cyfleoedd cyfatebol ar gael i ymgynghorwyr yng Nghymru o'u cymharu â Lloegr."