BMA: 'Mae'n proffesiwn ar ei liniau'
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon teulu yng Nghymru yn wynebu "argyfwng" ac mae pwysau anferth yn golygu bod y proffesiwn "ar ei liniau", yn ôl cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yng Nghymru.
Yn ôl Dr Charlotte Jones mae cynnydd mewn galw wedi ei gyfuno â gweithlu sy'n lleihau yn golygu bod meddygol teulu'n aml "rhy flinedig" i weld cleifion tu allan i oriau gwaith.
Dywedodd Dr Jones hefyd bod Cymru'n wynebu sefyllfa lle mae ei phobl ifanc fwyaf disglair yn gadael y wlad.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n cydnabod bod meddygon teulu'n wynebu pwysau cynyddol o ddydd i ddydd.
'Cymaint o straen'
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, fe siaradodd Dr Jones am adroddiadau fod meddygon yn gadael eu gwaith fel meddygon teulu am swyddi eraill neu'n penderfynu ymddeol yn gynnar.
"Mae'r proffesiwn o dan gymaint o straen mae meddygon teulu'n teimlo'r pwysau yn gorfforol ac yn feddyliol wrth ddeilio gyda'u swyddi dydd i ddydd, "meddai.
Dywedodd fod y pwysau yn effeithio Cymru gyfan ond bod trafferthion gyda recriwtio a chadw gafael ar aelodau staff yn golygu mai mewn ardaloedd gwledig roedd y broblem fwyaf.
Mae'r BMA hefyd wedi codi pryderon am gost uchel yswiriant mae meddygon teulu ei angen er mwyn gallu gweld cleifion tu allan i oriau gwaith, gan ddweud y gallai droi meddygon yn erbyn y syniad.
"Mae pryderon am gynaladwyedd a sefydlogrwydd y gwasanaeth tu allan i oriau.
"Does dim digon o feddygon ar gael i wneud y gwaith yn ein barn ni a gyda newidiadau i'r ffioedd yswiriant mae meddygon yn gorfod dalu mae'n mynd i fod llai a llai ohonyn nhw.
"Rydym yn clywed am shifftiau yng ngogledd Cymru ac ardaloedd gwledig eraill sydd ddim yn cael eu llenwi ac mae hynny'n achosi pryder anferth i ni."
Problemau eraill
Yn ôl Dr Jones mae'r llywodraeth angen cynyddu faint o arian mae meddygfeydd yn ei dderbyn - mae hi'n honni ei fod wedi gostwng fel cyfradd o gyllideb y gwasanaeth iechyd dros y blynyddoedd.
Dywedodd hefyd bod angen gwneud gwell ymdrech i recriwtio a chadw meddygon teulu a bod angen lleihau faint o waith papur mae meddygon yn gorfod ei wneud.
Mae'r BMA yn trafod cytundeb gyda Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud a chyfrifoldebau a rheolau ar hyn o bryd.
Mae Dr Jones yn obeithiol y bydd y llywodraeth yn gwrando ar ei phryderon: "O'i gymharu â Lloegr mae gennym ni berthynas dda iawn gyda Llywodraeth Cymru - maen nhw'n gwrando arnom ni."
Mewn ymateb i'w sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym yn cydnabod bod meddygon teulu, yn ogystal â gweithwyr eraill o fewn y byd iechyd yng Nghymru, yn wynebu pwysau cynyddol o ddydd i ddydd.
"Rydym mewn trafodaethau gyda Pwyllgor Meddygon Teulu BMA Cymru er mwyn geisio mynd i'r afael â rhai o'u pryderon.
"Fel rhan o'r newidiadau ar gyfer y cytundeb meddygon teulu ar gyfer 2014/15 rydym yn edrych ar sut gellir newid y Fframwaith Safonau a Chanlyniadau er mwyn lleihau biwrocratiaeth, cael gwared ar brofion diangen ar gyfer cleifion a chael gwared ar amlder diangen adalw a chofnodi cleifion.
"Rydym yn credu y bydd hyn yn galluogi meddygon teulu i dreulio mwy o amser gyda'r cleifion fwyaf bregus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013