Tair camp mewn un!

  • Cyhoeddwyd

Dros yr wythnosau nesaf bydd BBC Cymru Fyw yn cael golwg ar rai o'r campau llai cyffredin sy'n cael eu chwarae ar hyd a lled Cymru.

Yr wythnos hon rydyn ni yn cael golwg ar gêm sydd yn fyw poblogaidd filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn Awstralia nac ar un o barciau Caerdydd.

Mae pêl-droed Aussie Rules yn cael ei chwarae ar faes hirgrwn rhwng dau dîm, gyda deunaw chwaraewr bob ochr.

Amcan y gêm yw i gicio'r pêl drwy'r pedwar post gôl ar bob pen y maes. Mae 'na 6 phwynt am gicio'r pêl rhwng y dau bost canol ac un pwynt am gicio'r bêl rhwng y pyst i'r dde a'r chwith.

James Gibson yw Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Awstralaidd Cymru:

Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o'r South Cardiff Panthers, gyda James Gibson yn y blaen gyda'r bêl

Rheolau'r gêm

"Mae 'Australian Rules Football' neu Aussie Rules wedi cael ei chwarae yng Nghymru ers 2007. Mae naw tîm yng Nghynghrair Pêl-droed Awstralaidd Cymru (WARFL), gyda naw chwaraewr bob ochr, a'r hawl i gyfnewid pum chwaraewr o'r fainc drwy gydol y gêm.

"Mae'r tîm yn chwarae ar gae rygbi yn hytrach na'r cae siâp hirgrwn sy'n arferol yn Awstralia. Mae'r tymor yn para' drwy'r haf (Mai i Awst), ac yna bydd gemau rhyngwladol gan gynnwys y Tri-nations a Chwpan Ewrop.

"Mae nifer o double-headers yn cael eu chwarae ar yr un diwrnod fel ein bod yn denu torf mwy a chael barbie, sy'n creu awyrgylch gyfeillgar. Oherwydd mai tyfu mae Aussie Rules yng Nghymru mae pawb yn 'nabod ei gilydd ac mae ysbryd cymunedol, gyda phawb yn helpu ei gilydd gyda'r dyfarnu a'r hyfforddi.

Disgrifiad o’r llun,

Y South Cardiff Panthers yn ymarfer ar Gaeau Caedelyn, Caerdydd

"Does dim angen cael profiad i gymryd rhan, gan fod hyfforddiant yn cael ei gynnig mewn awyrgylch hwyl ym mhob clwb. Y cyfan sydd ei angen yw pâr o esgidiau chwarae a'r awydd i gymryd rhan!

Gemau cystadleuol

"Yn y gynghrair yma mae'r Cardiff Double Blues, Cardiff Panthers, Swansea Magpies, Chippenham Redbacks a'r Bristol Dockers. Mae'r gynghrair wedi newid dros y blynyddoedd, gyda thimau yng Nghasnewydd, Pen-y-bont a Bro Morgannwg wedi'u ffurfio ond wedi dod i ben dros y blynyddoedd oherwydd diffyg arian a chwaraewyr.

"Er hyn, mae diddordeb wedi bod gan dimau eraill yn Lloegr i ymuno fel bod y gynghrair yn parhau, er gwaethaf colli timau yng Nghymru.

"Dreigiau Coch Cymru yw ein tîm cenedlaethol ac maen nhw'n chwarae'n rheolaidd yn erbyn gwledydd eraill Prydain. Mae gemau cyfeillgar a thwrnameintiau yn cael eu cynnal ledled Prydain ac Ewrop. Yn y ddwy bencampwriaeth Cwpan Ewrop ddiwethaf mae Cymru wedi gorffen yn y 12fed a 7fed safle, allan o 18 tîm cenedlaethol.

"Mae nifer o chwaraewyr yn y WARFL wedi mynd ymlaen i gynrychioli Prydain yng nghystadleuaeth Cwpan Rhyngwladol Awstralia, a fydd yn cael ei chynnal ym mis Awst.

"Mae ambell i Awstraliad yn chwarae yn Ne Cymru, sy'n wych er mwyn magu dealltwriaeth o'r gêm a hyfforddiant gan yr arbenigwyr! Ond mae'r rhan fwyaf o'r chwaraewyr wedi eu geni a'u magu yma ac yn mwynhau chwarae gêm sy'n cyfuno llif pêl-droed, y gwrthdaro sydd yn rygbi ac angerdd pêl-fasged.

Disgrifiad o’r llun,

Y chwaraewyr yn cystadlu am y bêl o dan gic uchel

Dal i dyfu

"Rydyn ni wedi cael grantiau yn y gorffennol, ond mae hi dal yn sialens i dyfu yn yr un ffordd a fydden ni'n ddymuno oherwydd adnoddau a phobl i helpu. Mae Aussie Rules yn gêm leiafrifol a 'dyn ni angen gymaint o adnoddau â phosib i ddenu cynulleidfa ehangach ac annog chwaraewyr newydd i gymryd rhan yn y gêm wych a chyffrous yma.

"Ein nod yw ehangu'r gêm yng Nghymru drwy gryfhau'r gynghrair bresennol fel bod ganddon ni sylfaen gadarn i ddechrau hyfforddi mewn ysgolion gyda'r amcan o godi ein safle o fewn cystadlaethau rhyngwladol."

Os hoffech chi ddysgu rhagor am y gêm ewch i wefan Cymdeithas Pêl-droed Awstralaidd Cymru , dolen allanol