Gorchymyn prynu gorfodol i Ysbyty Gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr yr adeiladau rhestredig wedi dirywio yn fawr ers i'r ysbyty gau yn 1995

Mae gorchymyn prynu gorfodol wedi ei roi i berchnogion hen ysbyty meddwl yn Sir Ddinbych.

Fe wnaeth Ysbyty Gogledd Cymru gau yn 1995, ac ers hynny mae wedi cael ei fandaleiddio a'i ddifrodi gan dân.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud bod angen gwerth bron £1 miliwn o waith atgyweirio ar y safle, sy'n berchen i gwmni Freemont (Denbigh) Ltd.

Pleidleisiodd cynghorwyr i fwrw ymlaen gyda'r gorchymyn prynu gorfodol, a daeth cadarnhad ddydd Gwener bod y cyngor wedi gwneud hynny.

£930,000 o waith

Caeodd yr ysbyty yn 1995, fel rhan o ad-drefnu gwasanaethau yn yr ardal.

Ers ei gau mae'r adeilad, sy'n adeilad rhestredig gradd 2, wedi dirywio yn fawr a dywedodd y cyngor bod angen gwario £930,000 i'w drwsio.

Bwriad Freemont, sydd a'i bencadlys yn yr Ynysoedd Virgin Prydeinig, oedd adeiladu bron i 300 o dai, llefydd i fusnesau a chyfleusterau i'r gymuned ar y safle.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru

Daeth caniatâd cynllunio i ben yn 2009, a penderfynodd y cyngor wneud cais am orchymyn pryniant gorfodol.

I sicrhau Gorchymyn Prynu roedd angen i'r cyngor brofi i lywodraeth Cymru eu bwriad i atgyweirio'r rhan rhestredig o'r adeilad. Byddai hynny'n cael ei ariannu gan werthu tir i adeiladu tai.

Cadwraeth

Cafodd Ymddiriedolaeth Cadw Adeiladau Gogledd Cymru ei sefydlu i reoli'r safle o hyn ymlaen.

Bydd yr ymddiriedolaeth yn rheoli'r gwaith atgyweirio ar y prif adeiladau drwy alluogi i rannau eraill o'r safle gael eu datblygu ar gyfer tai.

Bydd yr elw yn talu am atgyweirio'r adeiladau pwysicaf, ac yn galluogi i'r rhai llai pwysig gael eu dymchwel.

Dywedodd Graham Boase, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd yn Sir Ddinbych: "Mae hwn wedi bod yn broses hynod o rwystredig sydd wedi ei hestyn oherwydd y diffyg gweithredu gan berchnogion y safle i wneud gwaith brys ar yr eiddo.

"Prif ystyriaeth y Cyngor yw cadwraeth y prif adeilad hanesyddol ar y safle, ac rydym wedi rhybuddio'r perchnogion droeon y byddem yn mynd ar drywydd prynu gorfodol, pe na bai gennym unrhyw ddewis arall."

Mae gan Freemont yr hawl i apelio'r Gorchymyn Prynu Gorfodol.