Betsi: 'Pethau'n gwella'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gwynedd

Mae gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fwy o waith i'w wneud nes ei fod yn addas ar gyfer ei ddiben, yn ôl adroddiad.

Daw i'r casgliad bod "nifer o heriau sylfaenol" yn wynebu'r bwrdd iechyd, sydd angen eu datrys fel mater o frys.

Ond mae hefyd yn cydnabod bod tystiolaeth sy'n dangos fod peth gwelliannau wedi digwydd ers i adolygiad y flwyddyn ddiwethaf ddarganfod methiannau difrifol yn y ffordd roedd yn cael ei redeg.

Mae'r bwrdd iechyd wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud ei fod yn dangos bod cynnydd wedi digwydd.

Methiannau

Nôl ym mis Mehefin 2013, cafodd adroddiad beirniadol tu hwnt ei gyhoeddi, a bu'n rhaid i gadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd ymddiswyddo o ganlyniad.

Casgliad yr adroddiad oedd bod "methiannau rheoli sylweddol" yn peri risg i gleifion oherwydd bod heintiau ddim yn cael eu rheoli'n effeithiol

Yn ogystal roedd sefyllfa ariannol y bwrdd a'r berthynas wael rhwng y cadeirydd a'r prif weithredwr yn achosi anawsterau.

Fe wnaeth yr adroddiad 24 o argymhellion gwahanol ac mae adroddiad heddiw yn dangos sut mae pethau wedi newid ers hynny.

Yna, ym mis Rhagfyr, daeth pwyllgor Cynulliad i'r casgliad bod Betsi Cadwaladr yn "esiampl o sut i beidio llywodraethu".

'Bregus'

Mae awduron yr adroddiad yma - Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru - yn dweud fod pethau'n gwella o ran trefniadau diogelwch, yn enwedig mewn cysylltiad â rheoli heintiau, a bod cyfarfodydd bwrdd bellach yn gweithio'n well.

Ond mae'n dweud bod angen gwneud mwy er mwyn cryfhau'r ffordd mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i gwynion a digwyddiadau difrifol.

Mae'n dweud hefyd bod y sefyllfa ariannol yn parhau yn "fregus" a'i fod yn "bryder arbennig" nad oes cynllun tair blynedd, fel sy'n ofynnol o dan reolau newydd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd cadeirydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, Dr Peter Higson: "Ar ran y bwrdd rwy'n croesawu'r adroddiad hwn.

"Mae'n cadarnhau ein bod wedi gwneud cynnydd wrth fynd i'r afael â materion gafodd eu codi gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2012 ond bod mwy sydd angen ei wneud.

"Mi fydd cyflymder y newid o fewn y bwrdd iechyd rwan yn cynyddu gan fod y prif weithredwr newydd, yr Athro Trevor Purt wedi dechrau ei swydd ym mis Mehefin."