Cymeradwyo safleoedd ynni morol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae tri safle yng Nghymru wedi cael yr hawliau i ddatblygu cynlluniau ynni'r môr gan Ystâd y Goron.
Dywedodd Ystâd y Goron bod datblygu'r dechnoleg oddi ar arfordir Ynys Môn a Sir Benfro yn "hollbwysig" er mwyn i'r DU elwa o ynni llanw a thonnau.
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi dweud y gall y cynlluniau adeiladu "marchnad ynni morol sy'n ffynnu" yng Nghymru.
Mae'r safleoedd yng Nghymru yn rhai o chwe safle newydd fydd yn cael eu datblygu dros y DU.
'Datblygiad pellach'
Cafodd hawliau datblygu eu rhoi i dri chwmni o Gymru; Menter Môn a Minesto yn y gogledd a chwmni Wave Hub yn Sir Benfro.
Bydd Menter Môn yn rheoli safle arddangos ynni llanw oddi ar arfordir orllewinol yr ynys, tra bydd Minesto yn datblygu safle oddi ar Gaergybi.
Bydd Wave Hub yn gyfrifol am greu safle arddangos ynni tonnau oddi ar arfordir ddeheuol Sir Benfro.
Yn ôl Ystâd y Goron, cafodd y safleoedd eu dewis oherwydd eu bod yn lleoliadau addas ar gyfer gwaith arbrofi ac arddangos.
Dywedodd Rob Hastings, Cyfarwyddwr Ynni ac Isadeiledd Ystâd y Goron: "Wrth roi'r hawliau morol pellach yma rydyn ni'n falch i allu hwyluso datblygiad pellach o'r dechnoleg a masnacheiddio, fydd yn hollbwysig os yw'r DU am ddefnyddio'r adnoddau naturiol ar gyfer ynni tonnau a llanw."
Cynnal 25,000 o gartrefi
Ychwanegodd Gerallt Llewelyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: "Yr ysgogiad dros ymgeisio oedd sefydlu Ynys Môn fel canolbwynt ynni môr ac i ychwanegu cymaint â phosibl o werth i'r economi leol.
"Dros y ddegawd nesaf byddwn hefyd yn ceisio cefnogi'r gwaith o gynhyrchu 120 MW o ynni adnewyddadwy, sy'n ddigon i gynnal 25,000 o gartrefi."
Dywedodd Carwyn Jones bod y llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau buddion i Gymru o ynni morol.
"Mae'r moroedd egnïol oddi ar ein arfordir yn berffaith ar gyfer datblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy.
"Mae ein porthladdoedd, isadeiledd gyflenwi ac isadeiledd grid yn rhoi mantais i ddatblygu marchnad ynni morol sy'n ffynnu, fel cynhyrchydd sylweddol ac fel allforwr o wybodaeth am ynni morol, technoleg a gwasanaethau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2013