Taliad diswyddo £200,000 yn rhoi 'gwerth am arian'
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi disgrifio taliad diswyddo o £200,000 i gyn brif weithredwr y bwrdd fel un sy'n rhoi "gwerth am arian".
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Peter Higson, y gall ymadawiad Mary Burrows wedi cael ei "lusgo allan" oni bai eu bod wedi cytuno ar setliad yn gynnar.
Roedd y taliad o £200,000 yn rhan o swm o hyd at £470,000 gafodd ei dalu gan y bwrdd iechyd i Ms Burrows y llynedd.
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod wedi dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru wrth iddynt benderfynu ar lefelau taliadau.
Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, dywedodd Dr Higson:
"Yr hyn oedd flaenaf yn fy meddwl oedd bod hwn yn sefyllfa cymhleth a thrasig i lawer o bobl oedd yn rhan ohono, ac y gallai fod wedi dod yn fater hynod o hirwyntog - fyddai'n anfantais mawr i'r bwrdd iechyd os nad oeddem yn cytuno ar setliad."
Aeth Dr Higson ymlaen i ddweud:
"Ac rwyf yn meddwl yn y sefyllfa yma, gan gymryd yr holl amgylchiadau i ystyriaeth a'i fod yn swm mawr iawn o arian, roedd yn ymddiswyddiad wedi ei gytuno ar y ddwy ochr - ac rwyf yn meddwl ei fod yn cynrychioli gwerth am arian o ystyried y gost a allai wedi bod pe bai pethau wedi cael eu llusgo allan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2013