Ysgolion ar gau wrth i eira a rhew daro'r de orllewin

Fe aeth lori yn sownd yn yr eira yn ardal Crymych fore Iau
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ysgolion wedi gorfod cau yn y de orllewin fore Iau oherwydd y tywydd rhewllyd.
Roedd y Swyddfa Dywydd eisoes wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew fydd yn parhau mewn grym tan 23:59 nos Iau.
Mae'r rhybudd yn benodol i ardaloedd yn y de orllewin, ble mae nifer o adroddiadau o drafferthion ar y ffyrdd ag amodau gyrru gwael.
Mae disgwyl cawodydd gaeafol drwy gydol y dydd a all effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ar amodau cerdded a seiclo.
Mae disgwyl i rai llefydd ar dir uwch yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin weld hyd at 10cm o eira.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn annog pobl i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio.

Daeth rhybudd y Swyddfa Dywydd i rym am 12:00 brynhawn Mercher
Ysgolion ar gau
Mae nifer o ysgolion wedi gorfod cau ddydd Iau oherwydd yr amodau gwael.
Sir Benfro
Ysgol Bro Preseli
Ysgol Llanychllwydog
Ysgol Llandudoch
Ysgol Hafan y Môr
Ysgol Gynradd Gymunedol Eglwyswrw
Ysgol Gymunedol Maenclochog
Ysgol Gymunedol Brynconin - Llandysilio
Ysgol Clydau - Tegryn
Ysgol Caer Elen
Ysgol Bro Gwaun
Ysgol Bro Ingli
Ysgol Greenhill
Ysgol Gymunedol Templeton
Ysgol Gymunedol Tavernspite
Ysgol Gatholig St Teilos
Ysgol Eglwys yng Nghymru St Aidans
Ysgol Eglwys yng Nghymru St Oswalds
Ysgol Gymunedol Puncheston
Ysgol Portfield, Hwlffordd
Ysgol Gymunedol Aberth
Ysgol Henry Tudor
Ysgol Uwchradd Hwlffordd
Ysgol Cosheston
Ysgol Eglwys yng Nghymru, Cilgerran
Mae modd i chi weld y diweddaraf ynghylch yr ysgolion sydd wedi cau ar wefan Cyngor Sir Benfro yma., dolen allanol

Dyma oedd yr olygfa i nifer o bobl y de orllewin fore Iau
Sir Gaerfyrddin
Ysgol Dyffryn Taf
Ysgol Emlyn
Ysgol Talacharn
Ysgol Llanmiloe
Ysgol Pwll
Ysgol Beca
Ysgol Bro Brynach
Ysgol Griffith Jones
Ysgol Llys Hywel
Ysgol y Ddwylan
Mae modd i chi weld y diweddaraf ynghylch yr ysgolion sydd wedi cau ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin yma, dolen allanol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd14 awr yn ôl
