Awyrennau gofod Llanbedr

  • Cyhoeddwyd
virgin galacticFfynhonnell y llun, virgin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Virgin Galactic yn gobeithio danfon twristiaid ar daith i'r gofod

Mae maes awyr Llanbedr yn cael ei ystyried fel lleoliad ar gyfer canolfan awyrennau fydd yn medru teithio i'r gofod. Mae Llanbedr ger Harlech ymhlith wyth llain awyr ar restr fer Llywodraeth y DU. Y bwriad yw sefydlu canolfan teithio i'r gofod ym Mhrydain erbyn 2018.

Bydd y ganolfan newydd yn lleoliad yn y lle cyntaf ar gyfer danfon lloerennau i'r gofod. Maes o law mae cwmnïau fel Virgin Galactic a XCor yn gobeithio cynnig gwasanaeth hedfan i dwristiaid gofod.

Disgwylir cyhoeddiad ynglŷn â dyfodol y prosiect yn ystod sioe awyr Farnborough yr wythnos hon.

Dywedodd Gweinidog Busnes y Deyrnas Unedig Vince Cable "Yr wythnos hon fe fyddwn yn cyhoeddi'r camau nesaf ar gyfer teithio i'r gofod, ac fe fyddwn yn amlinellu cam mawr ymlaen tuag at sefydlu porth gofod ym Mhrydain erbyn 2018."

O'r wyth llain awyr sydd ar y rhestr fer, mae chwech ohonynt yn yr Alban. Mae disgwyl i weinidogion ddewis un o'r lleoliadau yno gan fod gan yr Alban nifer o gwmnïau sydd ag arbenigedd yn y maes. Fodd bynnag fe allai refferendwm annibyniaeth yr Alban ddylanwadu ar benderfyniad y llywodraeth.

Eisoes mae cynlluniau yn cael eu datblygu i ddefnyddio maes awyr Llanbedr fel canolfan ar gyfer awyrennau di-beilot milwrol a sifil.

Mae llain lanio Llanbedr yn 2,300 metr o hyd. Llywodraeth Cymru yw perchnogion y safle.

Ffynhonnell y llun, Bristol Spaceplanes and Reaction Engines
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ascender and Skylon yn esiamplau o awyrennau gofod y dyfodol