'Gormod o fenywod yn ysmygu pan yn feichiog'
- Cyhoeddwyd
Mae gormod o fenywod yn dal i ysmygu pan yn feichiog, medd meddygon plant.
Daw'r rhybudd wrth i'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant gyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar achosion o farwolaethau plant yng Nghymru.
Mae gan Gymru gyfraddau uwch o fenywod beichiog yn ysmygu na gwledydd eraill y DU.
Dywed y Coleg Brenhinol ei fod yn "gwbl annerbyniol" bod siawns plentyn o oroesi wedi ei dylanwadu mor drwm gan amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd.
20 o argymhellion
Ymhlith 20 o argymhellion, mae'r adroddiad yn galw am bennu a monitro targedau cenedlaethol a lleol newydd ar gyfer lleihau cyfraddau ysmygu ar draws pob cyfnod sy'n perthyn i feichiogrwydd ac yn ystod y cyfnod cynnar o fod yn rhiant.
Er bod ysmygu'n ffactor risg pwysig, yng Nghymru y gwelwyd y cyfraddau ysmygu uchaf cyn neu yn ystod beichiogrwydd o'i gymharu â gwledydd eraill y DU.
Dywedodd y paediatregydd ymgynghorol o Abertawe, Dr Chris Bidder, llefarydd ar ran Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, wrth BBC Cymru bod pobl mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o ysmygu pan yn feichiog.
"Nid yw ymdrechion i addysgu ac ymgysylltu wedi gweithio cystal â'r bwriad," meddai, gan awgrymu bod modd gwneud mwy mewn ysgolion i addysgu plant am y peryglon yn ogystal â gweithio gydag ysmygwyr benywaidd drwy eu meddygon teulu a chyn iddynt ddod yn feichiog.
"Mae rhoi gorau i ysmygu yn anodd, ond mae rhaglenni rhoi'r gorau i ysmygu yn effeithiol iawn yng Nghymru, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn cynnig y gefnogaeth," meddai.
Cysgu diogel
Mae'r coleg hefyd yn datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth "er mwyn hybu cysgu diogel, codi ymwybyddiaeth o'r risgiau posibl sy'n gysylltiedig â chysgu yn yr un gwely â phlentyn, ac ystyried anghenion ychwanegol teuluoedd sy'n fwy agored i niwed, lle gallai mwy nag un ffactor risg fod yn bresennol, e.e. rhiant yn ysmygu".
Mae'r adroddiad hefyd yn argymell cyfyngiadau cyflymder 20mya yn yr holl ardaloedd adeiledig.
"Nid yw terfynau cyflymder 20mya mewn ardaloedd adeiledig yn golygu amseroedd teithio arafach ond maent yn golygu llai o ddamweiniau," meddai Dr Bidder.
Dywedodd llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i leihau marwolaethau plant y mae modd eu hosgoi a bod "yr adroddiad yn amlygu'r pwysigrwydd o leihau'r bwlch er mwyn lleihau marwolaethau plant".
Ychwanegodd llefarydd bod lleihau anghyfartaledd yn ganolog i bob un o'u polisïau a cyfeiriodd at dargedau uchelgeisiol gafodd eu cyhoeddi yn ddiweddar.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2013