Maes Awyr Llanbedr: un o wyth lleoliad dan ystyriaeth

  • Cyhoeddwyd
Awyrenau gofodFfynhonnell y llun, Virgin Galactic
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd artist o awyrenau gofod all gael eu defnyddio i gludo pobl i'r gofod

Daeth cadarnhad bod Maes Awyr Llanbedr yng Ngwynedd yn un o wyth lleoliad dan ystyriaeth gan Lywodraeth San Steffan i sefydlu maes awyr i lansio awyrenau masnachol i'r gofod o 2018 ymlaen.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn Sioe Awyr Farnborough gan y Gweinidog Awyr Robert Goodwill a Phrif Weithredwr Asiantaeth Gofod Prydain Dr David Parke.

Mae ymdrech Prydain i fod yn arwain hyn yn Ewrop wedi cymryd cam sylweddol ymlaen o ganlyniad i'r cyhoeddiad.

Roedd 'na adroddiadau y byddai'r maes awyr yn Llanbedr ar y rhestr.

Y saith lleoliad arfordirol arall yw Meysydd Awyr Campbeltown; Glasgow Prestwick a Stornorway yn Yr Alban, Maesydd Awyr y Llu Awyr yn Luchars a Lossiemouth, eto yn Yr Alban, Gwersyll Kinloss, Yr Alban a Maes Awyr Newquay yng Nghernyw.

Lleoliadau addas

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, fod 'y gofod' yn fusnes mawr i'r DU gan gyfrannu £11,3 biliwn i'r economi yn flynyddol ac mae 'na 35,000 yn gweithio yn y diwydiant.

"Mae felly yn bwysig ein bod yn paratoi ar gyfer y camau nesaf a sefydlu'r Hafan Ofod erbyn 2018. "

Yn ôl yr Adran Drafnidiaeth, yr hyn fyddai'n gwneud lleoliad addas yw ffactorau meteoroleg, amgylcheddol ac economaidd sy'n cynnwys:

· llain lanio sydd eisoes yno neu y mae modd ei ymestyn i dros 3000m o hyd;

· y gallu i gartrefu a gwahanu gofod awyr i reoli'r hedfan yn ddiogel;

· pellter rhesymol o ardaloedd poblog er mwyn lleihau'r effaith ar y cyhoedd.

Ffynhonnell y llun, John Lucas
Disgrifiad o’r llun,

Llywodraeth Cymru yw perchnogion Maes Awyr Llanbedr

Ar ôl cyfnod ymgynghorol fe fydd gwaith pellach yn cael ei wneud i ddatblygu'r safleoedd fydd yn parhau ar y rhestr fer gan gynnwys casglu barn pobl leol ac unrhyw un sydd â budd cyn parhau a'r cynllun.

Eisoes mae cynlluniau yn cael eu datblygu i ddefnyddio maes awyr Llanbedr fel canolfan ar gyfer awyrennau di-beilot milwrol a sifil.

Mae llain lanio Llanbedr yn 2,300 metr o hyd. Llywodraeth Cymru yw perchnogion y safle.

Croesawu'r cyhoeddiad

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, rhoddodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart groeso cynnes i'r newyddion, gan ddweud y byddai'n dod a llawer o fanteision i Gymru.

"Pe byddai Llanbedr yn cael ei ddewis, byddai cyfle yma i weddnewid pethau. Byddai'n rhoi hwb i economi rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru ac yn rhoi Cymru ar y map fel cyfrannydd pwysig i sector gofod byd eang y Deyrnas Unedig sy'n sector sy'n prysur dyfu.

"Mae gan Gymru gryfderau eisoes yn y Diwydiant Gofod a gallai'r Ganolfan Awyrennau helpu'r diwydiant hwn i sefydlu ei hunan ac i dyfu fel rhan o weledigaeth y DU ar ei gyfer."

Mae AC Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad.

Dywedodd: "Mae Maes Awyr Llanbedr yn rhan hanfodol o ranbarth menter Eryri, ac mae'r safle mawr yma yn rhoi cyfle i greu cyfleuster o'r safon uchaf ar gyfer hedfan a sectorau ehangach."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol