Clint a fi: Holi Julian Lewis Jones
- Cyhoeddwyd
Ar ôl bod yn y cysgodion oherwydd salwch pan yn blentyn mae Julian Lewis Jones bellach yn cyfri Clint Eastwood ymhlith ei ffrindiau!
Wrth iddo gyhoeddi ei hunangofiant Allan o'r Cysgodion (Y Lolfa), mi fachodd BBC Cymru Fyw ar y cyfle i holi'r actor a'r pysgotwr brŵd o Frynteg, Ynys Môn:
Syndod oedd clywed am dy salwch yn dy blentyndod. Pa salwch oedd arnat ti, a beth oedd ei effaith?
"Roedd Bronchiolitis, yn afiechyd oedd yn gwneud i mi golli fy anadl yn hawdd a felly doeddwn ni ddim yn medru cymryd rhan mewn pethau fel fy ffrindiau. Roeddwn i ishio cymryd rhan mewn chwaraeon ac ati, ond roedd y mucus yn llenwi fy ysgyfaint ac yn fy stopio.
"Dechreuodd pan oeddwn ni tua 7 oed a dwi'n cofio'r arbenigwr yn yr ysbyty'n dweud wrtha'i a fy mam y byddwn i yn tyfu allan ohono. Yn wir dyna ddigwyddodd, ond ddim tan roeddwn i tua 16! Wrth reswm, wedyn doedd dim i fy stopio! Nes i ddechrau cadw'n heini, codi pwysau ac yn wir dwi'n dal i gadw mewn trim pan dwi'n cael y cyfle.
Sut dechreuais di actio?
"Ar ôl gadael yr ysgol mi fues i yn gwneud pob math o swyddi - mi fues i yn labro, gweithio ar gwch pysgota a bues i yn gym instructor yn Llundain. Mi roeddwn i'n byw yn Los Angeles am gyfnod a phan ro'n i yno es i'r sinema un diwrnod a mi ge's i chwinc yn fy mhen . 'Sw'n i yn gallu g'neud hynna! Felly mi ddois i nôl i Gymru a llwyddo i gael fy nerbyn i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd"
Mae dy weld yn dal pysgod enfawr ar S4C yn olygfa gyfarwydd erbyn hyn. Sut y llwyddais di i ddod yn gyflwynydd arbenigol yn y maes?
"Clasur o 'siampl o overnight success gymerodd ddeng mlynedd! Mi fues i'n sgwennu pitches i pob sianel deledu y roeddwn i yn medru meddwl amdyn nhw... S4C, ITV, BBC, Discovery Channel. Ond roedden nhw i gyd yn dweud 'run peth, sef bod pysgota yn rhywbeth arbenigol a ddim yn ddigon mainstream ar gyfer sianel deledu gyffredin. Ar gyfer sianel loeren neu gebl oedd pysgota yn eu tyb nhw. Dim ond ar ol i mi ennill rhan yn 'Invictus' agorodd drws S4C. Mi gawson ni'r cyfle i wneud peilot. Roedd honno yn llwyddiannus ac rydan ni wedi cael ymateb da wedyn i'r gyfres"
Beth wyt ti, actor sydd yn pysgota neu pysgotwr sydd yn actio?
"Yn sicr pysgotwr sydd yn actio. Yr unig beth da i ddweud am fy afiechyd pan yn blentyn oedd ei fod o wedi cychwyn fy niddordeb mewn pysgota. Roeddwn i yn medru bod allan yn yr awyr agored yn mwynhau heb orfod poeni am golli anadl a mae pysgota yn rhan fawr iawn o'm mywyd i ers hynny. Rwy'n actio, er mwyn rhyddhau'r amser i bysgota!"
Ar ba gynhyrchiad y buasai'r gwylwyr wedi dod yn gyfarwydd a thi gyntaf?
"Mae'n siwr y peth cyntaf bydd llawer yn gofio yw'r ffilm Y Weithred, a oedd yn seiliedig ar yr ymdrech i fomio Tryweryn. Roeddwn i'n chwarae John Albert Jones, wnaeth gyd-gynllwynio efo Owain Williams ac Emyr Llewelyn i geisio atal Corfforaeth Dinas Lerpwl rhag codi'r gronfa'r ddŵr. Oherwydd y sgript a'r stori mae'n ffilm dwi'n dal yn falch iawn ohoni.
"O ran y darn o waith ble fyddech chi'n cofio fy enw... mae'n siwr mai 'Invictus' fyddai honno. Roedd y ffaith bod Clint Eastwood wedi dangos digon o hyder yn fy ngallu wedi rhoi'r hwb 'na i mi, yn bersonol a phrofesiynol a'r teimlad ges i oedd bod 'Invictus' wedi fy nghodi i rhyw fracket arall."
Sut wnes di lwyddo i fabwysiadu'r acen 'Afrikaans' mor dda ar gyfer Invictus?
"Mae gen i glust eithaf da am acenion. Mi 'nes i weithio'n galed iawn cyn teithio i Dde Affrica a thalu £100 am un wers! Ond hwnna oedd y £100 gorau wnes i wario erioed! Unwaith roeddwn ni allan yn y wlad, roedd yr acen o fy nghwmpas i trwy'r adeg a felly mi ddaeth yn haws i ryw raddau. Ond doeddwn ni ddim eisiau cam ddehongli'r acen. Roedd hi'n hynod bwysig i mi ennill parch pobl De Affrica a sicrhau fod yr acen yn spot on!"
Mae na son falle' bod mwy o bobl yn dy 'nabod am achub wallaby o'r dŵr nag am actio na physgota!
"Rydwi'n eithaf balch o'r digwyddiad a mae o'n dipyn o fonws fod y clip wedi troi'n rhyw fath o 'internet sensation', dolen allanol Mi ddigwyddodd o tra'n ffilmio cyfres 'Sgota allan yn Awstralia. Aeth y clip dros y byd dros nos! Roedd o ar y newyddion ar un sianel deledu yn Awstralia. Gan ein bod ni'n siarad Cymraeg roedd y rhaglen yn ofni ein bod ni'n rhegi, felly mi 'naethon nhw chwarae cerddoriaeth Hen Wlad Fy Nhadau dros y sain!"
Pa ran fyset ti'n hoffi ei rwydo nesaf?
"Wel rydwi'n gweithio ar y gyfres 'Stella' (Sky1) ar hyn o bryd sef cyfres rwy'n fwynhau yn fawr iawn ac yn gyfle prin i mi wneud 'chydig o gomedi. Fel arfer rwy'n cael fy nghastio i wneud darnau mwy difrifol, felly mae chwarae Karl, cyn ŵr Stella yn bleser pur. Mi fyddai'n gweithio ar y gyfres tan mis Hydref, wedyn mae gen i rhyw bump diwrnod ar Under Milk Wood yn Solfach a wedyn, mi fyswn i wrth fy modd yn gwneud cyfres arall o 'Sgota.
"Roedd y gyfres ddiwethaf o 'Sgota mor arbennig, gyda chriw bach o bedwar yn gwneud popeth, yn agos atat ti, ac yn hyblyg iawn ond yn gwneud y gyfres yn un arbennig iawn i weithio arni hi. Y rhinwedd fwyaf oedd ei bod hi'n gyfres oedd yn edrych yn grêt gyda golygfeydd godidog allan yn Awstralia... ond yn edrych yn llawer drutach nag oedd hi go iawn. Mwy o bysgota fyddai'r freuddwyd fawr!