'Angen i Lywodraeth Cymru ddiddymu Panel Llythrennedd' - cyn-aelod

Elizabeth NonweilerFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elizabeth Nonweiler wedi galw ar Llywodraeth Cymru i ddidymu Panel Llythrennedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-aelod o Banel Llythrennedd Llywodraeth Cymru a ymddiswyddodd fis diwethaf yn dweud y dylid ei ddiddymu.

Dywedodd Elizabeth Nonweiler nad oedd wedi cyflawni unrhyw beth yn y flwyddyn ers ei sefydlu.

Mae anghytuno'n parhau ymhlith addysgwyr ynghylch faint o rôl y dylai dulliau ffoneg ei chwarae wrth addysgu darllen.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn cefnogi addysgu ffoneg, a sefydlwyd y panel i gynghori gweinidogion ar lythrennedd yn gyffredinol.

Mae gan Ysgol Panteg ym Mhont-y-pŵl 420 o ddisgyblion rhwng tair ac 11 oed.

Yn ogystal â gwersi darllen confensiynol, mae disgyblion yma'n cael eu dysgu i ddatblygu eu sgiliau darllen mewn nifer o ffyrdd, megis system gyfeillion (buddies) lle mae disgyblion hŷn yn gwrando ar rai iau yn darllen.

Mae'r disgyblion yn dechrau dysgu trwy ffoneg, sy'n dysgu'r synau y mae llythrennau'n eu cynrychioli a sut i'w cyfuno'n eiriau.

Ond mae amrywiaeth o ddulliau eraill yn cael eu defnyddio yma hefyd.

Mae 'na anghytundeb ynghylch y rôl y dylai gweinidogion chwarae yn sut y dylid addysgu darllen mewn ysgolion yng Nghymru.

Ysgol Panteg
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Panteg yn cael eu dysgu i ddatblygu eu sgiliau darllen mewn nifer o ffyrdd

Dywed y pennaeth, Dr Matthew Williamson-Dicken, ei bod hi'n hanfodol defnyddio amrywiaeth o ddulliau.

"Byddwn i'n dweud bod ffoneg yn elfen bwysig," meddai.

"Byddwn i'n dweud y gall rhoi eich holl wyau mewn un fasged fod yn broblem fawr.

"Mae'n rhaid i ni hefyd sylweddoli bod pob plentyn yn wahanol, ac rwy'n credu os ydym yn glynu wrth ddweud mai dyma'r unig ddull, rwy'n credu bod hynny'n gallu dod yn broblemus."

Dr Matthew Williamson-DickenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid i ni hefyd sylweddoli bod pob plentyn yn wahanol," meddai Dr Matthew Williamson-Dicken

Y llynedd sefydlodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle banel arbenigol i gynghori ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar lythrennedd.

Ond fis diwethaf, ymddiswyddodd un aelod o'r panel, Elizabeth Nonweiler, gan ddweud ei fod wedi cyflawni dim.

Mae hi bellach yn dweud y dylid ei ddiddymu.

"Roedd llawer o sôn am y mentrau, ac roedd yn ymddangos bod llawer o fentrau'n digwydd yng Nghymru, ond ni ofynnwyd i ni erioed beth oedden ni'n ei feddwl am y mentrau… a dechreuais i feddwl 'Felly os yw'r holl fentrau hyn yn digwydd a 'dyn ni ddim yn cael ein gofyn amdanynt, sut mae hynny'n gweithio?'

"Mae'r llywodraeth mewn sefyllfa anodd iawn. Rwy'n sylweddoli hyn.

"Rwy'n credu eu bod wedi cael eu gadael lawr gan eu cynghorwyr a dweud y gwir, ac rwy'n credu ei bod hi'n anodd iawn i'r llywodraeth benderfynu beth i'w wneud nesaf.

"Bydden i'n hoffi gweld nhw yn diddymu'r panel."

Safonau'n gwaethygu

Mae canlyniadau profion rhyngwladol PISA yn dangos bod safonau darllen yng Nghymru'n gwaethygu.

Mae ysgolion Lloegr wedi bod yn blaenoriaethu ffoneg ers 2010, ac mae eu canlyniadau yn reit sefydlog.

Ond mae Cymru wedi dirywio, ac mae bellach ymhell islaw cyfartaledd yr OECD o wledydd datblygedig blaenllaw.

Dr Luke Sibieta
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o'r dulliau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru "wedi'u seilio ar dystiolaeth amheus", meddai Luke Sibieta

Mae rhai arbenigwyr fel Luke Sibieta o'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS) yn dweud bod y ffigurau hyn yn profi mai ffoneg yw'r dull gorau.

"Mae canlyniadau darllen yng Nghymru yn siomedig. Maen nhw'n isel o'i gymharu â gweddill y DU, yn isel o'i gymharu â gweddill Ewrop.

"Ni'n gweld bod ysgolion yng Nghymru yn defnyddio llu o wahanol ddulliau i addysgu darllen, ac mae rhai ohonyn nhw wedi'u seilio ar dystiolaeth amheus.

"Pan fyddwch chi mewn sefyllfa o'r fath ac yn gweld canlyniadau mor wael, ar ryw adeg mae'n rhaid i chi ddweud wrthych chi'ch hun 'efallai bod angen i bethau newid', ac mae angen i ni ganolbwyntio ar ble mae tystiolaeth, a'r dystiolaeth gyda dull safonol o ffoneg synthetig."

'Dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth wael'

Mae Luke Sibieta hefyd yn dweud y dylai'r corff arolygu Estyn fod yn fwy rhagweithiol yn ei fonitro o sut mae darllen yn cael ei addysgu.

"Ar hyn o bryd maen nhw wedi cymryd ymagwedd ychydig yn agnostig at y ffordd mae darllen yn cael ei addysgu, a gall hynny fod yn eitha' pryderus.

"Mae yna wahanol ddulliau sy'n gweithio'n wahanol, ond mae yna ddulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth wael, ac felly dylai Estyn fod yn tynnu sylw at ble mae ysgolion yn defnyddio dulliau nad ydynt yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf."

'Dull pwysig o addysgu effeithiol'

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cefnogi "addysgu ffoneg synthetig yn systematig".

"Rôl yr arbenigwyr ar y panel yw ein cynghori ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar lythrennedd," meddai llefarydd.

"Mae'r panel yn cytuno bod ffoneg synthetig systematig yn ddull pwysig o addysgu darllen effeithiol…

"Rydym yn ddiolchgar i Elizabeth Nonweiler am y cyfraniadau cadarnhaol y mae wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae'r panel Arbenigwyr Llythrennedd yn cynnwys arbenigwyr yn eu maes a byddwn yn darparu diweddariad llawn ar eu gwaith yn fuan."

Dywedodd Estyn: "Dros y tair blynedd nesaf, bydd Estyn yn cynyddu ei ffocws ar ddarllen ar draws pob sector, gan godi disgwyliadau, a chefnogi rhannu arfer effeithiol.

"Mae hyn yn cynnwys archwilio pa mor dda y mae ysgolion yn creu diwylliannau darllen cryf, pa mor gyson y maent yn cefnogi dysgwyr ar wahanol gamau o ddatblygiad darllen, ac a yw'r dulliau wedi'u strwythuro, yn gydlynol, ac wedi'u llywio gan dystiolaeth."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.