Ann Clwyd yn ystyried aros

  • Cyhoeddwyd
Ann ClwydFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r blaid Lafur yng Nghwm Cynon yn awyddus i ddewis olynydd Ann Clwyd o restr agored.

Mae'r Aelod Seneddol Llafur Ann Clwyd wedi cadarnhau ei bod yn ail ystyried ei phenderfyniad i adael Tŷ'r Cyffredin pan ddaw'r Etholiad Cyffredinol nesaf.

Ym mis Chwefror fe ddywedodd Ms Clwyd y byddai'n rhoi'r gorau i fod yn Aelod Seneddol Cwm Cynon, ar ôl cynrychioli'r etholaeth ers 1984.

Ers y cyhoeddiad mae aelodau Llafur yn yr etholaeth wedi ymgyrchu yn erbyn penderfyniad y blaid yn ganolog i ddewis ei holynydd o blith rhestr merched yn unig.

Dywedodd Ms Clwyd ei bod yn "ystyried ei hopsiynau".

Deellir fod nifer o aelodau ei phlaid wedi gofyn iddi barhau fel yr ymgeisydd wrth i'r anghydfod barhau rhwng y blaid yn lleol a Llafur yn ganolog.

Mae ofnau y gallai'r broses o ddewis ymgeisydd heb gydsyniad y blaid yn lleol arwain at ddrwgdeimlad pellach a niwed i'r blaid Lafur yn yr etholaeth.

Mae Llafur yn gobeithio cynyddu'r nifer o ferched sydd yn cynrychioli'r blaid yn San Steffan trwy gyflwyno rhestrau merched yn unig.

Mae swyddogion y blaid yn lleol yn awyddus i gael rhestr agored o ymgeiswyr i'w ystyried, ac maen nhw'n hawlio fod y blaid yn ganolog wedi diystyru'r teimladau cryfion yng Nghwm Cynon.

Ym mis Mehefin dywedodd Ann Clwyd nad oedd yn awyddus i ddylanwadu ar y broses o ddewis ymgeisydd newydd ond "mae hi gwbl i fyny i'r bobl leol yn y blaid i wneud eu penderfyniad eu hunain."

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur nad oedden nhw wedi cael unrhyw gais a'u bod nhw yn y broses o drefnu rhestr lawn i Gwm Cynon.