Dathlu 40 mlynedd Canolfan Dechnoleg Amgen

  • Cyhoeddwyd
Canolfan y Dechnoleg AmgenFfynhonnell y llun, CAT
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ganolfan Dechnoleg Amgen yn uchel ei pharch yn rhyngwladol yn y maes cynaliadwyaeth

Eleni mae'r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth ym Mhowys yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu.

Fel rhan o'r dathliadau mae partneriaeth newydd rhwng y ganolfan a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cael ei ffurfio.

Bydd rhan o archif y ganolfan, sydd yn cynnwys dros 90 o gyfweliadau hanes llafar, cannoedd o ddogfennau a chyhoeddiadau, tua 1000 o ffotograffau a detholiad o fideos digidol o'r 40 mlynedd diwethaf, yn cael eu trosglwyddo i'r llyfrgell.

Cynhelir arddangosfa a digwyddiad archifo arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf i ddathlu'r partneriaeth newydd.

Teitl digwyddiadau'r dydd yw 'Lleisiau o Chwarel Segur', a dyma hefyd deitl arddangosfa hanes llafar ac arddangosfa sain fydd yn rhan o arlwy'r dydd.

Cydlynydd y prosiect yw Allan Shepherd, sydd hefyd yn Swyddog Cyhoeddiadau yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, ac sydd wedi gweithio yno am 20 mlynedd.

Cynnig atebion gwahanol

"Ffurfiwyd y ganolfan gan Gerard Morgan Grenville a Diana Brass er mwyn cynnig atebion gwahanol i'r rhai a gynigai diwydiant," meddai.

"Profodd y ganolfan syniadau a thechnolegau newydd, ac yna cyhoeddi a oedden nhw'n gweithio ai peidio.

"Fe arbrofwyd ar ynni adnewyddadwy, technolegau adeiladu cynaliadwy, garddio organig a dŵr biolegol a systemau trin carthffosiaeth.

"Dechreuodd ymwelwyr gyrraedd o fewn ychydig ddyddiau, ac ar ôl blwyddyn, gan fod cymaint yn dod, penderfynwyd agor canolfan ymwelwyr i hybu atebion ymarferol a chreu ffynhonnell ariannol i'r ganolfan.

"Mae dwy filiwn o bobl wedi ymweld â ni ers 1974, ac wedi dysgu ychydig - neu lawer iawn - am bynciau gwyrdd."

Ymhlith llwyddiannau'r ganolfan, yn ôl Mr Shepherd, mae:

  • oergelloedd sy'n defnyddio ynni'r haul

  • systemau i reoli systemau ynni adnewyddadwy

  • tyrbin gwynt a aeth i'r Antarctig

  • ffordd newydd o gompostio cafodd eu mabwysiadu gan awdurdodau lleol ledled Prydain

Ffynhonnell y llun, CAT
Disgrifiad o’r llun,

Gosod y cynllun trydan dŵr cyntaf

Ond dywedodd Mr Shepherd nad oedd pob ymdrech gan y ganolfan wedi llwyddo: "Doedd pob arbrawf ddim yn llwyddiannus, neu ond yn hanner llwyddiannus, er enghraifft y stôr-wresogydd rhyngdymhorol a oedd yn storio ynni haul yr haf ar gyfer y gaeaf, yr wal heulol a oedd yn fwy addas i hinsawdd yr Alpau nag i Gymru, ac amryw dyrbinau gwynt arbrofol.

"Rydyn ni wedi helpu i dynnu sylw'r cyhoedd at yr amgylchfyd, ond dydyn ni ddim wedi difa'r blys i brynu, nac atal y newid i'r hinsawdd, na chreu cymdeithas deg. Daliwn i ymdrechu!"

Agweddau wedi newid

Serch hynny dywed Mr Shepherd bod agweddau wedi newid: "Mae agweddau tuag at yr amgylchfyd wedi newid cryn dipyn.

"Mae pobl yn sylweddoli bod 'na argyfwng, ac yn awyddus i weithredu. Mae'r newid hinsawdd wedi bod yn agoriad llygad, ac mae pobl yn chwilio am atebion positif.

"Mae ynni adnewyddadwy, ffermio organig, ailgylchu ac arbed ynni wedi hen ennill eu plwyf.

"Mae digon o bethau i'w gwneud, ond mae'n ymddangos ein bod yn dechrau creu'r math o gymdeithas y buon ni'n anelu ati ers 40 mlynedd."

Dywedodd bod y ganolfan hefyd wedi effeithio arno yn bersonol: "Mae wedi newid fy mywyd yn llwyr.

"Mae gen i rwydwaith eang o ffrindiau agos, digonedd o gyfleoedd i greu gwaith - a fydd, dwi'n gobeithio, o werth parhaol - lle gwych i fyw, a chymuned ehangach o bobl sy'n dylanwadu arna i ac yn cydweithio â mi yn Nyffryn Dyfi a thu hwnt.

"Meddwl am fy nghydweithwyr dros y blynyddoedd sy'n rhoi fwyaf o bleser i mi.

"Rydyn ni wedi chwerthin a dathlu gyda'n gilydd. Yn bersonol, dwi wedi mwynhau gweithio ar brosiect hanes llafar - Lleisiau o Chwarel Segur - dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Mae tua 300 o bobl wedi cymryd rhan, yn y ganolfan ac yng nghymuned ehangach Dyffryn Dyfi.

"Roedd yn bleser cydweithio â'r Llyfrgell Genedlaethol, sy' wedi cefnogi'r prosiect archifau ers pum mlynedd. Hyfryd oedd cwrdd â chymaint o bobl serchog ac ymroddedig yn y llyfrgell."

Bydd archif y ganolfan yn cael ei lansio rhwng 2pm a 4pm ar ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf yn ardal y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a bydd arddangosfa i'w gweld yn adeilad y Llyfrgell drwy gydol y dydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol