Cynnydd awtistiaeth oedolion yn arwydd bod 'system wedi methu'

Fe gafodd Vicky Powner o Sir Benfro ddiagnosis o awtistiaeth yn 2023
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynnydd yn nifer yr oedolion sy'n gofyn am asesiad awtistiaeth yn arwydd o "system sy'n methu", yn ôl menyw a gafodd ddiagnosis hwyr ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd Vicky Powner, 37 o Sir Benfro, iddi deimlo'n grac am orfod aros degawdau am atebion, ac nad yw wedi cael cefnogaeth ddigonol ers hynny.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu cynnydd o 133% yn nifer yr oedolion wnaeth gais am asesiad yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yng Nghymru.
Mae nifer y menywod sy'n gwneud cais am wasanaeth bron wedi treblu.
Yn ôl y Gymdeithas Awtistiaeth, mae hanes o ganolbwyntio'n unig ar nodweddion awtistig mewn dynion yn golygu bod "cenhedlaeth o fenywod wedi colli allan".
Dywedodd Non Parry fod "dim dealltwriaeth... am sut mae awtistiaeth yn edrych ac yn teimlo i ferched"
"Corwynt" yw disgrifiad Vicky o'i theimladau pan gafodd hi ddiagnosis yn 2023.
"O'n i'n confused am pam nag o'dd e wedi cael ei bigo lan cyn 'ny. O'dd dicter, o'n i'n grac, o'dd shwt gyment o emosiyne'," dywedodd.
"Mae e'n alar am beth gallen i wedi bod fel, a pha mor wahanol galle' 'mywyd i 'di bod pe bai fi ond yn gwbod bo' fi jyst bach yn wahanol a bod hwnna'n ok."
Yn ôl Vicky, roedd sefyllfaoedd cymdeithasol yn anodd iddi, a rheoli emosiynau hefyd yn her.
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024
Mae'n credu y byddai cael diagnosis ynghynt wedi ei helpu i "dderbyn fy hunan".
"Ma' lot o bobl yn sôn am 'trend' yn ddiweddar a bod e'n trendy nawr i gael y label 'ma," ychwanegodd.
"Dyw e ddim yn trend o gwbl. Mae e'n dangos bod cannoedd os nad miloedd o bobl wedi cael eu ffaelu mewn system dros y blynyddoedd.
"Wrth edrych 'nôl nawr, fi'n gallu gweld pa mor unig o'n i."

Fe wnaeth Non a Vicky gwrdd ar ôl cael diagnosis o awtistiaeth tua'r un pryd
Hyd yn oed wedi'r diagnosis, roedd heriau eraill fel diffyg cefnogaeth, yn ôl Vicky.
Dyna wnaeth arwain at ei chyfeillgarwch annisgwyl â'r gantores, Non Parry, wnaeth ddatgelu fis Mawrth 2023 iddi gael diagnosis o awtistiaeth.
Ar ôl cysylltu ar-lein, fe wnaeth y ddwy gwrdd, a dywedodd Non fod y cyfeillgarwch "fel rhodd... ac fel edrych mewn drych".
"Ar ôl cael diagnosis, does dim rili lot o gefnogaeth. Ti'n cael pamffled, ac off a ti," meddai.
"S'dim dealltwriaeth a does dim pobl yn siarad am sut mae awtistiaeth yn edrych ac yn teimlo i ferched."
'O'r diwedd, o'dd rhywun yn deall'
Ychwanegodd Non: "'Den ni wedi tyfu i fyny mor unig, yn meddwl mai jyst ni sy' 'di torri, mai bai ni ydi o. Ni sy'n gorfod newid."
Ychwanegodd Vicky fod y cyfeillgarwch wedi "llenwi calon".
"O'r diwedd, o'dd rhywun yn deall," meddai.

Yn ôl Vicky Powner roedd Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd yn "drobwynt rili bositif" iddi o ran derbyn y diagnosis awtistiaeth
Ar ôl cuddio nodweddion ers blynyddoedd, dywedodd Vicky bod haf 2024 wedi bod yn "drobwynt iddi".
Roedd gwylio Eden yn canu'r gân 'Fi' Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd yn uchafbwynt.
"O'n i'n gwrando ar Non yn canu... a'th e'n ormod a co'r dagre'n dechre'," dywedodd.
"Dwi yn browd o ba mor bell dwi 'di dod mewn amser eitha' byr.
"Dwi wir wedi newid y ffordd dwi'n gweld fy hunan, a ffordd fi'n siarad da'n hunan a trin fy hunan."
Mwy o geisiadau am asesiad
Dros gyfnod o bum mlynedd, mae nifer yr oedolion wnaeth gais am asesiad awtistiaeth wedi mwy na dyblu.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, dolen allanol fe wnaeth 4,882 o oedolion gais yn 2023/24, o gymharu â 2,092 yn 2019/20.
Roedd y rhan fwyaf o'r oedolion rhwng 26 a 45.
Menywod oedd i gyfri' am y mwyafrif wnaeth gais am wasanaeth - 11% yn fwy o ferched na dynion.
Mae nifer y menywod sy'n gwneud cais am gymorth yng Nghymru wedi bron â threblu - cynnydd o 179% - dros y bum mlynedd ddiwethaf.
Yn ôl Sioned Thomas o gorff Niwrowahaniaeth Cymru, mae ymwybyddiaeth gwell a stigma'n lleihau ymhlith rhai o'r rhesymau tu ôl i'r cynnydd yn y ceisiadau am asesiad.
"Mae'r dealltwriaeth yna o ran beth yn union ydy awtistiaeth a sut mae o'n gallu edrych yn wahanol mewn menywod," meddai.
"Mewn menywod yn enwedig 'da ni'n gweld llawer o fasgio, a cuddio, a mae o'n gallu ymddangos yn wahanol i mae o i ddynion hefyd."
Ychwanegodd, yn y gorffennol, fod diffyg gwybodaeth wedi arwain at "gam-ddiagnosis" mewn menywod; diagnosis o broblemau iechyd meddwl fel "iselder, pryder neu anhwylderau personoliaeth".

"Dydy'r ddarpariaeth ddim yn mynd i allu cwrdd ag anghenion pawb, gan bod anghenion pawb mor wahanol," medd Sioned Thomas
Mae Niwrowahaniaeth Cymru hefyd yn cydnabod nad yw'r gefnogaeth ar ôl diagnosis wastad yn ddigonol.
"Mae 'na wasanaethau a chefnogaeth ôl-ddiagnosis, ond ella bod hwnna ddim cweit yn dod at anghenion y bobl sydd allan yna," esbonia Sioned Thomas.
"Dwi'n meddwl, ma rhan o hynna oherwydd y niferoedd sy'n dod ymlaen."
Ychwanega bod y Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig yng Nghymru "yn gweithio ar wella hynna" ond ei bod hi'n anodd cael system berffaith.
"Dydy'r ddarpariaeth ddim yn mynd i allu cwrdd ag anghenion pawb, gan bod anghenion pawb mor wahanol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "gweithio i leihau amseroedd aros mewn ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau niwroamrywiaeth"
Ychwanegodd llefarydd eu bod nhw'n buddsoddi mewn "amseroedd aros plant fel y gallant gael eu hasesu a derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt yn gynt, gan leihau pwysau ar oedolion sy'n aros am asesiad yn y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd25 Awst