Cau Pont y Borth am gyfnod amhenodol ar gyfer gwaith atgyweirio

- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd un o'r pontydd sy'n cysylltu Ynys Môn â'r tir mawr yn cau am gyfnod amhenodol ar gyfer gwaith atgyweirio.
Fe gafodd cyfyngiadau pwysau newydd eu cyflwyno ddydd Gwener mewn ymgais i gadw Pont y Borth, neu Bont Menai, ar agor ond mae nawr wedi'i chau yn llwyr.
Daw'r penderfyniad wedi i waith archwilio ddarganfod bod angen bolltau newydd ar rai o'r trawstiau o dan y bont.
Mae'r Ysgrifenydd Trafnidiaeth Ken Skates wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod yn gwneud "popeth o fewn eu gallu i ddatrys y sefyllfa cyn gynted ag y bo modd".

Dim ond cerbydau oedd yn pwyso llai na thair tunnell oedd yn cael croesi ddydd Gwener
Yn natganiad y Llywodraeth dywedon nhw eu bod wedi gwneud y penderfyniad ar sail ymchwiliad ddangosodd bod angen ailosod "rhai o'r bolltau ar drawstiau o dan y bont".
Ychwanegon nhw bod trefniadau wedi'u gwneud i sicrhau bod cerbydau argyfwng ar gael pe tai Pont Britannia yn cael ei heffeithio gan wyntoedd cryfion yn ystod Storm Amy.
Dywedodd Ken Skates, "yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro i'r bobl leol" am yr "aflonyddwch parhaus rydych chi'n ei wynebu wrth i'r gwaith barhau i adfer y bont".
Ychwanegodd eu bod wedi "archwilio pob opsiwn i gadw'r bont ar agor yn ddiogel" ond yn dilyn cyngor gan y peirianwyr sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont, Priffyrdd y DU A55, does dim opsiwn ganddyn nhw ond ei chau'n llwyr.
"Er gwaethaf ein holl rwystredigaethau mae'n rhaid i ni wrando ar gyngor peirianwyr i sicrhau diogelwch pawb" meddai.
Bydd y bont ar gau am gyfnod amhenodol tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.
Mae disgwyl diweddariadau yn y dyddiau nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 awr yn ôl