Cannoedd heb drydan wrth i Storm Amy daro Cymru

Coeden wedi cwympo ar Romilly Road yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Coeden wedi cwympo ar Romilly Road yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae gwyntoedd cryfion yn dilyn Storm Amy wedi achosi problemau ar draws Cymru gyda channoedd o gartrefi heb drydan.

Cafodd yr hen bont hafren ar yr M48 ei chau i'r ddau gyfeiriad, a rhai gwasanaethau trên a llongau fferi wedi eu canslo.

Yn dilyn coed yn cwympo fe gafodd gwasanethau trên rhwng Wrecsam ac Amwythig eu gohirio ddydd Gwener a bu'r M4 ar gau am gyfnod rhwng Cyffordd 37 a 38.

Yn ôl ffigyrau'r National Grid erbyn 16:00 dydd Sadwrn roedd 462 o gartrefi dal heb drydan yn ne a gorllewin Cymru.

Traffig ar yr M4Ffynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r M4 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Cyffordd 37 a 38

Mae cyflenwad trydan bellach wedi dychwelyd i'r nifer fawr gafodd eu heffeithio ar y ffin rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg.

Ond mae'r 100 o gwsmeriaid yn Cathays a gollodd bŵer am 0700 dal heb drydan meddai'r National Grid.

Mae achosion hefyd yn dal i fod yn Aberdâr, y Pîl a Phontardawe.

Yng ngogledd Cymru, roedd SP Energy'n delio ag achosion yn ardal Trefriw a Llanrwst, Hen Golwyn, ac mewn ardaloedd o amgylch y Bala ac ym Modorgan ar Ynys Môn.

Mae nifer o achosion eraill yn y gogledd bellach yn cael cyflenwad trydan unwaith eto.

Mae rhybuddion melyn mewn grym ar gyfer pob rhan o Gymru am gyfnod ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybuddion melyn mewn grym ar gyfer pob rhan o Gymru am gyfnod ddydd Sadwrn

Fore Sadwrn doedd fferi Stena Adventurer, oedd yn teithio o Ddulyn i Gaergybi, ddim yn gallu angori oherwydd y tywydd gwael.

Cafodd ei gorfodi i deithio mewn cylchoedd am oriau'n agos at y lan cyn troi yn ôl am Ddulyn.

Fe gafodd taith gynnar llong fferi Stena o Abergwaun i Rosslare ei chanslo hefyd.

Cafodd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng Amwythig a Wrecsam eu gohirio ar ôl i goeden gwympo ar y lein ddydd Gwener yn ardal Gobowen.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru mai "diogelwch ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr yw ein blaenoriaeth a byddwn yn gweithio'n agos gyda Network Rail i gadw ein cwsmeriaid i symud; fodd bynnag, mae'n debygol y bydd rhai newidiadau byr-rybudd i wasanaethau."

Maen nhw'n annog eu cwsmeriaid i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio ac mae hynny ar gael ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

Dwayne PeelFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae gêm y Scarlets oddi cartref yn erbyn Connacht wedi ei gohirio oherwydd tywydd gwael

Mae'r tywydd garw wedi effeithio hefyd ar y meysydd chwarae, gyda gêm y Scarlets yn erbyn Connacht yn y bencampwriaeth rygbi unedig wedi ei gohirio.

Roedd y ddau dîm i fod i chwarae yn Stadiwm Dexcom am 13:45 ddydd Sadwrn ond cafodd taith y Scarlets i Iwerddon ei rhwystro gan y tywydd.

Cafodd eu hawyren ei dargyfeirio i Fanceinion ar ôl methu â glanio ym Maes Awyr Dulyn.

Coeden wedi cwympo ar ffordd yn ardal Mynachlog-ddu
Disgrifiad o’r llun,

Coeden wedi cwympo ar ffordd yn ardal Mynachlog-ddu yn Sir Benfro

Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryfion yn berthnasol i'r ardaloedd canlynol: Sir Gaerfyrddin, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam.

Mae'n golygu bod rhybudd ar gyfer pob rhan o'r wlad am gyfnod ddydd Sadwrn.

Mae disgwyl hyrddiadau o tua 45-55mya mewn mannau gyda'r arfordir yn profi hyrddiadau o 60-65mya.

Dros rannau eraill o Brydain mae rhybuddion ambr mewn grym ar gyfer gwynt, gyda'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am wyntoedd o hyd at 95mya mewn mannau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig