Protest dros bris bws i ysgol Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw wedi cynnal protest yn erbyn bwriad y cyngor i gynyddu cost bws ysgol i blant dros 16 oed i'r ysgol.
Roedd y myfyrwyr a'u teuluoedd yn galw ar Gyngor Dinas Casnewydd i ohirio'r cynnydd mewn costau tan fod asesiad effaith llawn ac ymgynghoriad wedi'i gynnal gyda disgyblion, rhieni ac ysgolion.
Er mai ym Mhont-y-pŵl yn Sir Torfaen mae Ysgol Gwynllyw, hi yw'r ysgol Gymraeg agosaf at Gasnewydd.
Mae'r cyngor yn bwriadu cynyddu cost y bws o £45 i £347 ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae'r rhandaliad cyntaf yn ddyledus erbyn diwedd Gorffennaf, a'r gost yn daladwy ar ben cyfraniad o £150 fel lwfans teithio gan y cyngor.
Un o'r disgyblion oedd yn y brotest oedd Siobhan Ehern, a ddywedodd: "Os mae'r pris dal yn mynd i fod yn tua £347 falle y bydd fi'n methu [mynd] oherwydd bod e'n rhy uchel."
'Diffyg sylfaenol'
Meddai Elin Maher, rhiant lleol a chynrychiolydd Rhieni dros Addysg Gymraeg yng Nghasnewydd:
"Bu'r diffyg ymgynghori sylfaenol gyda disgyblion a rhieni ynghylch twf mewn costau yn gwbl annerbyniol.
"Er bod y Cyngor yn honni eu bod yn trin pob disgybl yn gyfartal, gwirionedd y sefyllfa yw nad oes opsiwn lleol i ddisgyblion sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg; does dim darpariaeth o fewn taith gerdded neu os dymuna rhieni eu gyrru, fel sydd i ddisgyblion sy'n dewis astudio trwy gyfrwng y Saesneg...
"Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Llywodraeth Cymru yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i hyrwyddo mynediad at Addysg Gymraeg. Ydy codi tâl o £350 yn hyrwyddo?
"Beth os fydd dau o blant gyda chi yn y chweched? £700 i gyrraedd yr ysgol?"
Fe wnaeth aelod o gabinet Cyngor Casnewydd dros addysg gwrdd â'r disgyblion yn ystod y brotest er mwyn trafod eu pryderon.
Dywedodd y byddai'r cyngor yn ystyried cwyn y disgyblion, gan ychwanegu bod eu cynlluniau eisoes yn cynnwys sefydlu cronfa i helpu'r rhai sydd methu â thalu yn ogystal â'r opsiwn o dalu fesul tipyn.