Dau fardd, un dynged: Cofio Hedd Wyn a Francis Ledwidge
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf ohonom yng Nghymru yn gyfarwydd â hanes bywyd, a marwolaeth, y bardd o Drawsfynydd, Hedd Wyn, ond beth am Francis Ledwidge? Faint ohonom sy'n gyfarwydd â'i fywyd a'i farwolaeth yntau?
Roedd Francis Ledwidge yn fardd Gwyddelig fu farw, fel Hedd Wyn, ar 31 Gorffennaf 1917 yn ystod Brwydr Passchendaele, ac mae'r ddau wedi eu claddu ym Mynwent Artillery Wood ger Boezinge yng Ngwlad Belg.
Nid yn unig hynny, cafodd y ddau eu geni yn yr un flwyddyn - 1887 - Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd, Meirionnydd a Francis Ledwidge yn Slane, Swydd Meath, Iwerddon.
Ac mae tebygrwydd rhwng gwaith y ddau fardd hefyd - rhyfel, a chariad at famwlad, oedd prif destunau cerddi'r ddau fardd, gyda Hedd Wyn a Francis Ledwidge yn ysgrifennu am eu broydd genedigol o faes y gad. Ond tra'r oedd Hedd Wyn yn canolbwyntio ar dristwch a thrychineb rhyfel, roedd cerddi Francis Ledwidge yn ymfalchïo yn ei waith fel milwr a'i ddyletswydd i ddiogelu Iwerddon.
Dathlu dau fardd
Mae cymdeithas The Irish in Europe (International) wedi trefnu sawl digwyddiad yn y gorffennol i ddathlu bywyd Francis Ledwidge, ond eleni am y tro cyntaf, bydd digwyddiad yn cael ei gynnal i ddathlu bywydau'r ddau fardd.
Mae'r digwyddiad ym Mrwsel wedi'i drefnu ar y cyd â Chymdeithas Gymreig Brwsel.
Yn ôl un o'r trefnwyr Denis Buckley, llywydd rhyngwladol The Irish in Europe (International): "Hyd at tua phedair wythnos yn ôl, roeddem wedi bwriadu cynnal digwyddiad i ddathlu Ledwidge fel yn y blynyddoedd diwethaf," meddai.
"Ond rydym yn teimlo mai nawr yw'r amser i ddechrau coffau'r ddau fardd.
"Credwn y bydd y digwyddiad yn cychwyn y broses o adeiladu perthynas nid yn unig rhwng Gwyddelod a Chymry ym Mrwsel ond hefyd rhwng yr Iwerddon a Chymru."
Darlith wadd
Fel rhan o'r dathliad bydd arddangosfa o luniau o'r Rhyfel Byd Cyntaf, darlleniadau barddoniaeth, fforwm agored, a'r uchafbwynt fydd darlith wadd gan Mr Lieven Dehandschutter. Mr Dehandschutter yw Maer Saint-Niklaas yng ngorllewin Fflandrys ac mae'n awdur llyfr mewn tair iaith (Iseldireg, Saesneg a Chymraeg) ar fywyd a gwaith Hedd Wyn.
Y sbardun ar gyfer diddordeb Mr Dehandschutter yn Hedd Wyn oedd ei ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1978, yn ddyn ifanc 20 oed. Wedi iddo ddychwelyd adref, penderfynodd brynu "llawer o lyfrau am hanes, gwleidyddiaeth, diwylliant ac iaith Cymru". Ac wrth ddarllen cymaint ag y gallai am Gymru cafodd ei "synnu i ddarllen bod Bardd y Gadair Ddu wedi cael ei ladd ym 1917 ym Mrwydr Pilckem Ridge.
"Darganfuais hefyd bod y Gadair Ddu wedi'i gwneud gan ffoadur rhyfel o Fflandrys, Eugeen Vanfleteren.
"Bardd Cymraeg, wedi ei ladd a'i gladdu yn Fflandrys, a ffoadur o Fflandrys, a grëodd gadair i Gymru - y cyd-ddigwyddiad rhyfeddol yma wnaeth fy ysbrydoli i drefnu coffâd ar 31 Gorffennaf, 1992, 75 mlynedd wedi marwolaeth Hedd Wyn."
Pwysigrwydd parhau i gofio
Mae Mr Dehandschutter yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i gofio am Hedd Wyn a Francis Ledwidge.
"Mae Hedd Wyn a Francis Ledwidge yn ddau berson unigryw a ysgrifennodd gerddi rhyfeddol mewn amgylchiadau eithriadol.
"Mae eu barddoniaeth a hanes eu bywydau yn datgelu agweddau o'n hanes a'n cymdeithas Ewropeaidd nad ydynt wedi cael digon o sylw ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
"Felly, mae'n bwysig nid yn unig i'r Cymry a'r Gwyddelod goffáu'r ddau fardd, mae hefyd yn ddefnyddiol i bobl eraill i gael gwybod am eu gwaith.
"Bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i'r gorffennol iddynt, sy'n gallu cyfrannu at fwy o barch a chyd-ddealltwriaeth ymysg cenhedloedd Ewrop yn awr ac yn y dyfodol."
Bydd y digwyddiad i ddathlu gwaith a bywydau'r ddau fardd yn digwydd ar 31 Gorffennaf yn Llyfrgell Muntpunt ym Mrwsel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2014
- Cyhoeddwyd14 Mai 2014