'Dwbl' i Lleucu Roberts wrth gipio'r Fedal Ryddiaith

  • Cyhoeddwyd
Lleucu Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y beirniaid fod Lleucu Roberts yn "enillydd teilwng sy'n llawn haeddu'r Fedal Ryddiaith"

Am yr eildro mewn wythnos, Lleucu Roberts wnaeth sefyll ar ei thraed yn y Pafiliwn bnawn Mercher i dderbyn un o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

Yn dilyn ei llwyddiant yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth, mae hi hefyd wedi cipio'r Fedal Ryddiaith am ei chyfrol, Saith Oes Efa, dan y ffugenw 'Honna'.

Y gamp eleni oedd ysgrifennu cyfrol o ddim mwy na 40,000 o eiriau ar y thema 'Gwrthdaro'.

Y beirniaid oedd Catrin Beard, Meg Elis a Manon Rhys.

'Perlau'

Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Catrin Beard: "Bydd ei ffefryn gan bawb o blith y straeon - hoffais i'r dogn helaeth o ddyfeisgarwch a hiwmor yn Ffydd, stori a wnaeth i mi chwerthin yn uchel, am wraig o Sir Gaerfyrddin sy'n argyhoeddedig fod Duw wedi symud i fyw i'r tŷ drws nesaf.

"Ond uchafbwynt y casgliad i Manon yw stori Gwen, yr hen wraig fethedig mewn cartref gofal, a gollodd y gallu i gyfathrebu, ond wrth iddi gael ei thrin a'i thrafod gan ei gofalwyr, caiff y darllenydd y cyfle i rannu ei meddyliau a'i hatgofion cyfrinachol. Ys dywedodd Meg, mae cymaint o berlau yn y gadwyn hon o straeon.

Disgrifiad,

Seremoni Priflenor Rhyddiaith / Prose Medal Ceremony

Ychwanegodd: "Mae 'Honna' yn trin iaith yn gyson gelfydd, a'i champ yw peidio â gwthio'r gelfyddyd i'ch wyneb - y pleser yw dychwelyd drachefn a thrachefn, a chanfod rhywbeth newydd o hyd.

"Mae Saith Oes Efa'n gyfrol sy'n haeddu ei lle ar unrhyw silff lyfrau. Dyma enillydd teilwng sy'n llawn haeddu'r Fedal Ryddiaith gyda phob clod."

Tyfu o un stori a wnaeth cyfrol Saith Oes Efa, meddai'r awdur. Roedd hi'n rhan o ymgais ar ysgrifennu monolog ar gyfer y radio yn gynta', cyn datblygu'n gyfrol o straeon am Efa Cymru.

Mae'n dweud mai'r gyfrol hon yw'r gwaith mae hi wedi mwynhau ei greu fwyaf o bopeth a ysgrifennodd.

'Gwthio ffiniau ac arbrofi'

Ar ôl y seremoni ddydd Mercher, dywedodd Priflenor Eisteddfod Sir Gâr wrth Cymru Fyw:

"Maen nhw'n dweud mai fi 'di'r cyntaf ond 'dw i ddim yn siŵr. Mae pobl eraill ddigon call i ganolbwyntio ar un peth a'i wneud o'n iawn yn hytrach na gwneud dau beth!

"Roedd nofel ddoe yn mynd 'nôl dros rai blynydde felly roeddwn i wedi cael digon o amser gyda honna ond roedd hon yn fwy diweddar o dipyn ac yn llifo mewn ffordd, nath hon ddisgyn i'w lle yn weddol fuan.

"Roedd clywed y feirniadaeth yn wych, do'n i ddim yn sylweddoli gymaint o bleser mae'n rhoi i glywed rhywun nid yn unig yn gwerthfawrogi ond yn cael be o'ch chi'n drio ei wneud, ac yn deall pam eich bod yn gwneud pethau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd ac efallai yn gwthio'r ffiniau, arbrofi mewn rhyw ffordd - roedd yn gymaint o bleser.

"Saith merch sydd yn y gyfrol, saith merch ar wahanol gyfnodau o'u bywydau hefyd - mae'r ieuenga' yn 10 a'r hyna' yn 90.

"Pobl hollol wahanol ond i gyd yn Gymry ac i gyd yn brwydro - yn byw eu bywydau ac yn brwydro eu brwydrau yn eu ffyrdd eu hunain.

"Mae pobl yn dweud weithiau 'o ti wedi selio hwnna ar y person yna' ond na, byth. Wrth gwrs bod 'na argraffiadau a phethau fel 'na, y pethau bach wrth gwrs. Mae profiadau bywyd i gyd yn dod fewn i'r gymysgedd rhywsut ond na, heb selio ar neb yn benodol.

"Unwaith mae'r cymeriadau yn dechrau ffurfio, maen nhw'n dod yn bobl go iawn yn eu hawl eu hunain."

Awdur a chyfieithydd llawnamser

Magwyd Lleucu Roberts yn ardal Bow Street, Ceredigion, ond mae hi wedi bod yn byw yn Rhostryfan, ger Caernarfon, ers dros 20 mlynedd.

Mae'n briod â Pod, ac mae ganddyn nhw bedwar o blant, Gruffudd, Ffraid, Saran a Gwern. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Rhydypennau, Ysgol Penweddig, a Phrifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg, ac ennill gradd doethur yn 1989.

Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhwllheli ym 1982 tra roedd yn yr ysgol.

Bu'n gweithio fel golygydd yng Ngwasg y Lolfa cyn troi ei llaw at ysgrifennu a sgriptio cyfresi teledu a radio.

Bellach, mae'n awdur ac yn gyfieithydd amser llawn. Cyhoeddodd chwe nofel i oedolion a phum nofel i blant ac oedolion ifanc.

Enillodd wobr Tir na-n-Og ddwywaith.

Mae'r Fedal Ryddiaith eleni, a'r wobr ariannol o £750, wedi'u rhoi gan Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin.

Am fwy o wybodaeth am y Brifwyl, ewch i'n gwefan eisteddfod arbennig.