Carwyn Jones: Amddiffyn £1.25m ar gyfer canolfannau iaith
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi amddiffyn cynlluniau diweddara'r Llywodraeth i hybu'r iaith Gymraeg, gan ddweud bod angen "targedu'n effeithiol", a chanolbwyntio ar ddysgu'r iaith i blant.
Yn gynharach, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu gwario £1.25 miliwn ar ganolfannau iaith ac ardaloedd dysgu ar draws y wlad, fel rhan o'u polisi 'Bwrw 'Mlaen', gyda'r arian yn cael ei ddosbarthu trwy awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion i ddatblygu canolfannau iaith ar draws y wlad.
Wrth ymateb i honiad mai mater o "symud arian o gwmpas" oedd y buddsoddiad, a bod arian wedi'u dynnu o gyllid Cymraeg i Oedolion, dywedodd Mr Jones fod dysgwyr hŷn a phlant yn bwysig fel ei gilydd.
Yn ôl y llywodraeth, mae'r arian diweddara' yn ychwanegol at £1.6 miliwn oedd eisoes wedi'i addo dros y ddwy flynedd nesaf i gryfhau'r cysylltiad rhwng y Gymraeg a'r economi a hybu'r iaith yn y gymuned.
Ond yn siarad ar raglen y Post Cynta' fore Mercher, dywedodd cyfarwyddwr cwmni Popeth Cymraeg, Ioan Talfryn:
"Yr hyn sy' 'di digwydd yw bod arian wedi cael ei dynnu oddi ar faes Cymraeg i Oedolion, ar gyfer y flwyddyn ariannol yma 'dy ni 'di colli £1.5m, a gollon ni rhyw £750,000 y llynedd, mae hynny'n £2.3m, a 'dy ni'n mynd i golli mwy o arian y flwyddyn nesaf.
"Ac wedyn mae'r £1.25m yma sy'n cael ei roi i hyrwyddo a datblygu canolfannau Cymraeg yn llai na'r arian sy'n cael ei golli eisoes."
'Plant yn hollbwysig'
Gofynnodd BBC Cymru wrth y Prif Weinidog a oedd tynnu arian o goffrau addysg Gymraeg i Oedolion tra'n buddsoddi mewn canolfannau newydd yn awgrymu nad oedd dysgu'r iaith i oedolion bellach yn flaenoriaeth.
Atebodd Mr Jones: "Maen nhw yn bwysig ond mae'r plant yn hollbwysig hefyd.
"Os gewch chi'r plant yn ifanc yn siarad Cymraeg maen nhw'n mynd i ddal Cymraeg lan yn gyflym, maen nhw'n mynd i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac wedyn, wrth gwrs, bydd y Gymraeg yn rhan gadarn o'u cymeriadau nhw.
"Dyw hyn ddim i ddweud bod Cymraeg i Oedolion ddim yn bwysig ac rydym dal, wrth gwrs, i fuddsoddi yn hwnna ond mae'n rhaid i ni drio targedu ar hyn o bryd be sydd fwyaf effeithiol i wneud."
Mae'r llywodraeth hefyd wedi lansio brand newydd, sef 'y llais', a gaiff ei ddefnyddio yn holl weithgareddau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Bydd busnesau a sefydliadau partner yn cael eu hannog i'w ddefnyddio.
Bydd y brand hefyd yn rhan o ymgyrch newydd i hyrwyddo'r iaith - sef Pethau Bychain - i geisio annog pobl i gymryd camau bach i ddefnyddio'r Gymraeg yn fwy o ddydd i ddydd.
Pethau bychain
Yn ystod y lansiad ar y Maes yn Llanelli ddydd Mercher, cafodd fideo newydd ei ddangos sy'n rhan o'r ymgyrch Pethau Bychain.
Mae hwn yn dangos merch fach - Martha, o Ben-y-bont ar Ogwr, yn sôn am rai o'r camau mae hi, ei theulu a'i ffrindiau'n eu cymryd er mwyn defnyddio mwy ar y Gymraeg.
Mae'r rhain yn cynnwys dewis yr opsiwn Cymraeg pan yn defnyddio peiriant arian, gwasanaeth man talu mewn archfarchnadoedd a gwefannau cymdeithasol, yn ogystal â gwneud ymdrech i ddechrau sgyrsiau yn yr iaith.
Gofynnodd BBC Cymru ai ceisio sicrhau'r math yma o newidiadau bychain yw'r ffordd orau o geisio annog pobl i siarad yr iaith ar adeg pan mae nifer y siaradwyr yn gostwng.
Dywedodd Mr Jones: "Mae'r addysg 'na ond be' sydd ddim 'na ar hyn o bryd yw'r cynnydd yn niferoedd sy'n siarad Cymraeg yn y gymuned. Pam? Mae'n wir i 'weud bod rhai yn symud mewn ond nid yw'r sefyllfa yn ormodol yn nwyrain Sir Gâr, mae rhywbeth wedi digwydd o ran ymddygiad.
"Os edrychwch chi ar y Cyfrifiad, mae nifer o bobl nawr yn cyfri eu hunain fel pobl sydd yn deall Cymraeg. Allwch chi fetio bod nhw'n siarad Cymraeg, ond maen nhw'n meddwl bod eu Cymraeg nhw ddim yn ddigon da i ddweud bod nhw'n siarad Cymraeg.
"Codi hyder - mae hwnna'n rhan bwysig. Yn enwedig yn yr ardal hon, i 'weud wrth bobl sy'n gallu siarad Cymraeg, gwedwch mae rhaid i chi gyfri'ch hunain - cownto'ch hunain - fel mae pobl yn gweud rownd ffordd hyn, fel pobl sy'n siarad Cymraeg.
"Achos unwaith maen nhw'n colli hyder maen nhw'n colli hyder i drosglwyddo'r Gymraeg i'r genhedlaeth nesaf."
Er iddyn nhw groesawu'r canolfannau newydd, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y llywodraeth i gynyddu eu gwariant ar wasanaethau cyfrwng Cymraeg.
'Buddsoddiad pitw'
Dywedodd Cadeirydd y Gymdeithas, Robin Farrar, ei fod yn bwysig gweld y "darlun ehangach".
"Mae'r rhan helaeth o wariant Llywodraeth Cymru yn fuddsoddiad mewn gwasanaethau cyfrwng Saesneg yn yr iaith Saesneg," meddai.
"Wythnosau'n unig wedi cyhoeddiad diwethaf Carwyn Jones, daeth i'r amlwg bod toriadau i ddysgu Cymraeg i Oedolion.
"Buddsoddiad pitw sydd ar hyrwyddo'r Gymraeg - tua 0.15% o holl gyllideb y Llywodraeth. Rhaid gofyn: a ydy'r pres yma'n ddigon i gynyddu gwariant y Llywodraeth ar y gwaith hollbwysig o hybu'r Gymraeg?"
Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar dreftadaeth, Suzy Davies AC:
"Rydyn ni'n cefnogi ymdrechion i wella sgiliau cyfathrebu yn nwy iaith genedlaethol Cymru, ond mae 'na gwestiynau am sut y bydd y canolfannau hyn yn gweithredu ac a fyddan nhw'n gwella rhuglder yn y Gymraeg.
"Ers Cyfrifiad 2011, oedd yn dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, dyw Llywodraeth Lafur Cymru ddim wedi gwneud digon i hyrwyddo manteision siarad Cymraeg o fewn y farchnad swyddi."
"Rwy'n gobeithio y bydd gweinidogion Llafur yn egluro o ble bydd yr arian hwn yn dod a sut y gallai'r canolfannau newydd hyn hybu hyder pobl er mwyn iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg mewn sgyrsiau bob dydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2014
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2014