Ap BBC Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd
Cliciwch yma i'w lawrlwytho i ddyfais Apple, dolen allanol
Cliciwch i'w lawrlwytho i ddyfais Android, dolen allanol
Cafodd ap cyntaf y BBC yn Gymraeg, ap BBC Cymru Fyw, ei lansio fis Awst eleni. Mae ar gael ar ffonau iPhone ac Android ac mae'n rhad ac am ddim. Mae'n ddelfrydol i gael y newyddion a'r diweddaraf o Gymru, mewn un lle, yn Gymraeg.
Dyma'r adrannau sydd i'w gweld ar yr ap:
Heddiw - y diweddaraf o Gymru mewn llif o bytiau a dolenni i wefannau amrywiol
Prif Straeon - y prif straeon newyddion
Cylchgrawn - erthyglau nodwedd, darnau barn, blogiau, orielau lluniau a mwy
Gwleidyddiaeth - hynt a helynt y byd gwleidyddol yng Nghymru gan gynnwys blog Vaughan Roderick
Radio - cyfle i wrando ar eich hoff raglenni ar BBC Radio Cymru
Gallwch hefyd gyfrannu, drwy anfon eich straeon, negeseuon a lluniau yn syth at dîm cynhyrchu BBC Cymru Fyw.
Mae popeth ar flaenau eich bysedd (ac yn eich poced) gydag ap BBC Cymru Fyw.
[Mae'r ap yn gweithio ar dabledi, er nad oes fersiwn penodol wedi ei ddatblygu i dabledi]