Mabwysiadu: y gobaith o gysylltu
- Cyhoeddwyd
Cyn hir fe allai plant ac wyrion wedi eu mabwysiadu yng Nghymru gysylltu â theulu genedigol eu rhieni o dan gynlluniau wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd dim ond oedolion yng Nghymru sydd â hawliau o'r fath ond mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymestyn yr hawl o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Un o'r rhesymau am y newid yw caniatáu i deuluoedd wybod a yw hi'n bosib eu bod wedi etifeddu unrhyw broblemau iechyd.
Ar hyn o bryd dyw asiantaethau canoli, y cyngor neu fudiadau gwirfoddol, ond yn cydweithio gydag oedolion sy'n ceisio gwneud cyswllt ag aelodau o'u teulu genedigol - rhiant neu berthynas agos.
Ymgynghoriad
Mae gweinidogion wedi lansio ymgynghoriad sy'n gofyn a fyddai pobl yn dymuno bod y drefn yn cynnwys ewythr, modryb, cefndryd a llysblant.
Mae'r argymhellion yn cynnwys:
Ehangu'r broses i gynnwys plant neu wyrion unigolyn sydd wedi eu mabwysiadu - o leiaf ar gyfer y rhai gafodd eu mabwysiadu cyn diwedd 2005;
Gofyn am sylw pobl am hawl unigolion nad ydyn nhw eisiau cysylltiad gyda'u plant;
Gofyn a ddylai perthnasau genedigol gael ceisio cysylltu gyda theulu newydd y sawl sydd wedi mabwysiadu, hyd yn oed pe bai'r person gafodd ei fabwysiadu wedi marw.
Dywedodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fod y llywodraeth yn ymrwymedig i sicrhau bod gwasanaethau canoli ar gael i fwy o blant ac wyrion oedolion cafodd eu mabwysiadu.
'Rhesymau da'
"Rwy'n credu bod rhesymau da dros ganiatáu i ddisgynyddion a pherthnasau pobl fabwysiedig gael defnyddio gwasanaethau cyfryngu. Er enghraifft, gallai fod rhesymau iechyd fel cael gwybod a oes cyflwr meddygol etifeddol neu broblem iechyd arall a allai effeithio ar blant person.
"Felly rwy'n credu y dylid caniatáu i blant ac wyrion pobl fabwysiedig gael defnyddio gwasanaethau o'r fath, yn ogystal â'r bobl fabwysiedig eu hunain.
"Hefyd rydyn ni'n credu y dylid gosod trefniadau diogelu digonol i amddiffyn teuluoedd a bywydau preifat pobl fabwysiedig, a chydbwyso hawliau pobl fabwysiedig, 'personau rhagnodedig' a theuluoedd genedigol, gan fod yr hawliau hyn yn aml yn gwrthdaro."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd20 Awst 2013