Asbestos mewn 3,000 o ystafelloedd myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Pantycelyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prifysgol Aberystwyth bod asbestos mewn 1,088 o ystafelloedd, gan gynnwys yn Neuadd Pantycelyn

Gwnaeth dros dair mil o fyfyrwyr yng Nghymru gysgu mewn ystafelloedd gwely prifysgol ble roedd asbestos yn bresennol y llynedd.

Roedd asbestos yn bresennol mewn ystafelloedd ym Mhrifysgolion Caerdydd, Aberystwyth a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae'r sylwedd yn ddiniwed os nad oes neb yn ymyrryd ag e, ond mae'n gallu bod yn hynod niweidiol os yw'n cael ei aflonyddu.

Dywedodd y prifysgolion nad ydyn nhw'n dweud wrth fyfyrwyr am bresenoldeb yr asbestos pan maen nhw'n symud fewn gan fod asbestos yn cael ei ystyried yn risg isel yn yr ystafelloedd.

Ond Prifysgol Caerdydd bellach wedi dweud eu bod nhw am adolygu'r polisi i ystyried rhoi'r wybodaeth i fyfyrwyr o flaen llaw.

Galwad am dryloywder

Daeth y manylion i law rhaglen Good Morning Wales o ganlyniad i ymholiad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Yn ôl y British Lung Foundation mae'n 'ddiofal' i beidio dweud wrth fyfyrwyr ac mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (yr NUS) yn dweud y dylai sefydliadau fod yn gwbl dryloyw gyda myfyrwyr.

Mae 15,000 o fyfyrwyr yng Nghymru yn byw mewn ystafelloedd gwely mewn neuaddau preswyl sy'n eiddo i'r prifysgolion.

Cadarnhaodd Prifysgolion Abertawe, Bangor, Glyndŵr a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd nad oes asbestos yn bresennol yn eu llety nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd sawl un o neuaddau preswyl Prifysgol Caerdydd yn cynnwys asbestos yn eu hystafelloedd

Roedd defnydd asbestos yn gyffredin mewn adeiladau rhwng y pumdegau a'r wythdegau, yn aml fel deunydd insiwleiddio neu i atal tanau rhag ymledu.

Yn ôl y Gweithgor Iechyd a Diogelwch os nad yw'r asbestos yn cael ei ddifrodi nac wedi ei leoli'n rhywle ble y gall gael ei ddifrodi'n hawdd fydd yna ddim risg.

Ond mae'r ffibrau'n gallu achosi cyflyrau'r ysgyfaint fel asbestosis a mesothelioma os ydyn nhw'n cael eu hanadlu.

Artex a theils finyl

Prifysgol Caerdydd sydd â'r nifer mwyaf o ystafelloedd gydag asbestos - mae'r brifysgol yn amcangyfri' bod artex yn bresennol yn rhyw 1500 ohonyn nhw, mewn neuaddau'n cynnwys Llys Cartwright, Neuadd Aberconwy, Gogledd Talybont a Neuadd Roy Jenkins. Dywedodd y brifysgol bod diogelwch yn flaenoriaeth, ond bod "y mesurau rheoli sy'n cael eu gweithredu yn lleihau'r risg yn ddigonol".

Yn Aberystwyth, mae'r brifysgol yn dweud bod asbestos yn bresennol yn 1088 o ystafelloedd yng Nghwrt Mawr, a Neuaddau Pantycelyn a Phenbryn - y rhan fwyaf mewn teils finyl o dan garpedi sy' ddim yn risg yn ôl y brifysgol.

Ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae asbestos mewn ystafelloedd yn Llambed a Chaerfyrddin. Dywedodd y brifysgol bod y stafelloedd dan sylw mewn "cyflwr da", ond eu bod "ar hyn o bryd yn adolygu'r polisi o roi gwybod i fyfyrwyr".

Ym Mhrifysgol De Cymru mae asbestos yn bresennol mewn rhai ystafelloedd ar gampws Caerllion ond dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio mwyach.

Testun pryder

Beth Button yw Llywydd NUS Cymru: "Mae'n destun pryder i glywed y gallai cynifer o ystafelloedd mewn llety prifysgol ar draws Cymru gynnwys asbestos.

"Rydyn ni'n rhoi anogaeth gref i sefydliadau i gymryd y mater o ddifri a rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch myfyrwyr, wrth sicrhau eu bod yn gyfangwbl dryloyw gyda myfyrwyr ynghylch safon eu llety."

Dywedodd Dr Emrys Evans, sy'n llefarydd ar ran British Lung Foundation Cymru:

"Canfu gwaith ymchwil yn 2012 fod ymwybyddiaeth o asbestos yng Nghymru yn eitha' isel yn gyffredinol, gyda dim ond 27% o bobl yn hyderus eu hadnabyddiaeth o asbestos yn eu cartrefi.

"Mae pobl yn gallu dod i gysylltiad ag asbestos yn ddiarwybod, ac felly ble bynnag mae pobl yn byw neu'n gweithio fe ddylen nhw gael gwybod mewn modd dibynadwy am bresenoldeb asbestos. Mae peidio gwneud hynny yn ddiofal."

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd bod polisïau diogelwch y brifysgol yn rhai cadarn a'u bod yn dilyn yr holl reoliadau perthnasol.

Ychwanegodd: "Mi fydd y brifysgol nawr yn adolygu'r polisi gyda'r bwriad o roi'r wybodaeth [am lefelau asbestos] i fyfyrwyr o flaen llaw."