Chwarae rhan mewn ymgyrch atal trywanu

  • Cyhoeddwyd
Craig Maddocks
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Craig Maddocks wedi dweud fod gan ei ffrindiau a'i deulu feddwl mawr ohono

Mae teulu dyn gafodd ei drywanu i farwolaeth mewn tafarn yn Wrecsam yn cymryd rhan mewn ymgyrch i geisio atal troseddu â chyllyll.

Bu farw Craig Maddocks, 34 o Llai wedi iddo gael ei drywanu dros 50 o weithiau ym mis Mehefin 2013.

Cafodd Francesco John Prevete ei garcharu am oes am ei lofruddio.

Nawr mae chwaer Craig, Lisa Maddocks, a'i fam Edna, wedi cynnig eu gwasanaethau i geisio dwyn perswâd ar bobl sydd â chyllyll yn eu meddiant i gael gwared ohonynt.

'Gwneud rhywbeth positif'

Yn ôl Edna, mae helpu'r ymgyrch yn ffordd o wneud rhywbeth cadarnhaol er cof am Craig.

"Roedden ni angen rhywbeth," meddai. "Mae wedi bod yn amser ofnadwy o anodd i'r teulu cyfan ers marwolaeth Craig, felly roedden ni wir eisiau ffeindio rhywbeth allwn ni wneud er cof amdano.

"Clywodd Lisa am yr ymgyrch ac fe wnaethon ni benderfynu cymryd rhan.

"Os fydd yr ymgyrch yn helpu i dynnu cyllyll oddi ar y strydoedd yna mi fyddan ni'n teimlo ein bod wedi gwneud rhywbeth positif."

Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio yn Birmingham lle mae bin ar gyfer casglu'r cyllyll wedi cael ei osod.

Angel Gabriel

Bwriad y cwmni o Groesoswallt sy'n gyfrifol am yr ymgyrch, British Ironwork Centre, yw mynd a'r ymgyrch ar daith gan sefydlu biniau tebyg mewn dinasoedd ledled Prydain.

Yn ôl prif weithredwr y cwmni, Clive Knowles, mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd.

Dywedodd Mr Knowles: "Mi fyddan ni'n gofyn i bobl roi eu cyllyll, cyllyll fflic a pa bynnag arfau eraill maen nhw'n ddefnyddio i ni a chymryd rhan yn yr ymgyrch.

"Mae'n amlwg bod angen i ni wneud mwy o gael yr arfau yma oddi ar ein strydoedd...

"Mi fydd yr arfau yna'n cael eu defnyddio i wneud cerflun o'r Angel Gabriel fydd rhwng 18 a 24 troedfedd o uchder."