Datgelu tirwedd Gardd Fotaneg Cymru
- Cyhoeddwyd
Mi fydd cam cyntaf cynllun gwerth £6.7 miliwn i adfer tirwedd hanesyddol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn mynd yn ei flaen.
Fe fydd yr Ardd yn derbyn £300,000 o gefnogaeth gan Gronfa Tretadaeth y Loteri ar gyfer prosiect i adfer y tir i'w gyfnod Rhaglywiaethol (Regency).
Petai'r Ardd yn cael cefnogaeth am y cynllun llawn, dyma fyddai'r prosiect mwyaf yn hanes yr Ardd.
Y bwriad yw datgelu tarddiad Neuadd Middleton, yr ystad 568 erw y mae'r Ardd yn rhan ohoni, ac i edrych ar ddylanwad dros 250 mlynedd o Gwmni India'r Dwyrain a fu'n gyfrifol am dirwedd y rhan hon o Gymru.
Mae'r cynllun yn cynnwys gwaith pwysig archaeolegol fydd yn datgelu cyfrinachau'r ystad o gyfnod Shakespeare a chyn hynny, a gweld adfer tirwedd y cyfnod Rhaglywiaethol diweddarach a oedd yn cynnwys, ar un adeg, un o barciau dŵr gorau Prydain.
Pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau, bydd yr Ardd unwaith eto yn cynnwys cadwyn o saith llyn, rhaeadrau, sgydau a llifddorau, gafodd eu creu dros 200 mlynedd yn ôl, yn ogystal â'r cynllun plannu a ffurfiodd galon y parcdir.
Môr-ladron, pla a phlanhigion meddyginiaethol
Meddai Pennaeth Datblygu'r Ardd, Rob Thomas: "Roedd y teulu Middleton, a setlodd yn Sir Gaerfyrddin yn chwarter olaf y 16eg ganrif, yn rhai o brif sylfaenwyr Cwmni India'r Dwyrain.
"Roedden nhw nid yn unig yn rhai o ddeisebwyr y Siarter wreiddiol, roedden nhw hefyd yn fuddsoddwyr, cyfarwyddwyr, rhanddeiliaid a phrif anturiaethwyr masnachol holl fordeithiau cyntaf y cwmni, mordeithiau darganfod a menter a adnabyddid yn ddiweddarach yn Rhyfeloedd y Sbeisys."
Y cyfoeth enfawr a enillwyd gan John, David a Syr Henry Middleton yn ystod eu bywydau, a greodd ystad Neuadd Middleton a ffynnodd am fwy na 150 o flynyddoedd.
Ychwanegodd Rob Thomas: "Roedd eu cyfoeth nhw wedi'i ennill trwy fusnes planhigion meddyginiaethol a oedd yn broffidiol dros ben, mewn cyfnod pan oedd puprau a chlofs yn nwyddau gwerthfawr iawn, a nytmeg a mês yn werth fwy na'u pwysau mewn aur."
Pan ddirywiodd ffortiwn y teulu Middleton, fe brynwyd yr ystad gan Syr William Paxton yn y 1780au, Albanwr oedd yn dychwelyd o'i waith gyda Chwmni India'r Dwyrain yn un o ddynion cyfoethocaf Prydain.
Yn ôl Rob Thomas: "Dechreuodd weithio er mwyn creu'r tirwedd a welir yma heddiw, gan ddefnyddio'r bobl orau yn eu meysydd i gynllunio'r plasty, y gerddi a'r gadwyn o lynnoedd sy'n amgylchynu'r plasty ar ben y bryn."
"Mae hi'n stori anhygoel o fôr-ladron, pla a phlanhigion meddyginiaethol, ac yn nodweddu cyfnod o 250 mlynedd yn natblygiad masnach ryngwladol, o gyfnod cyfnewid a thrwco i sefydlu llinellau o gredyd rhyngwladol a bancio buddsoddi; a sefydlu patrwm ar gyfer ein system gyfalafol bresennol; ac yn nwylo Syr William Paxton, sefydlu bancio buddsoddi modern."
'Prosiect uchelgeisiol... arwyddocaol'
Wedi'i hagor yn 2000, mae'r Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi'i lleoli ar 568 o erwau o barcdir hanesyddol Neuadd Middleton, sy'n cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol a fferm organig, yn ogystal ag arddangos rhai o'r planhigion prinnaf yn y byd.
Ers agor 14 mlynedd yn ôl, mae hi wedi croesawu mwy na 2.2 miliwn o ymwelwyr.
Meddai Cyfarwyddwraig yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Dr Rosie Plummer: "Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol, a'r fenter fwyaf arwyddocaol ers agor yr Ardd yn 2000.
"Fe fydd e nid yn unig yn rhoi gwerth parhaol i'r rhan hon o Gymru, ond bydd e hefyd yn anrhydeddu gweledigaeth wreiddiol a dyfalbarhad William Wilkins, a holl sylfaenwyr eraill yr Ardd."
Meddai Dr Manon Antoniazzi, Cadeirydd Pwyllgor CLD Cymru: "Mae hwn yn brosiect addawol iawn, ac ry'n ni wedi'n cyffroi ein bod ni'n gallu darparu cefnogaeth gychwynnol er mwyn datblygu'r cynlluniau i adfer y tirwedd Cymreig eiconig hwn.
Mae'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, hefyd yn croesawu'r newyddion: "Bydd stori hynod o ddiddorol Middleton yn atseinio o amgylch y byd - a daw'r stori o Gymru, gyda phobl Cymru a Chymry Cymraeg yng nghalon y stori. Mae llwyddiant y prosiect yn cynrychioli gorchest i'n Gardd Fotaneg Genedlaethol, ac ry'n ni'n disgwyl yn eiddgar am y cyfle i wylio ei ddatblygiad."
Yn ôl Mark James, Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, mae'r cyhoeddiad yn newyddion ardderchog i'r Ardd, y Sir a'r rhanbarth.
"Mae twristiaeth yn reiddiol i Sir Gaerfyrddin, ac mae'n werth mwy na £330 miliwn y flwyddyn i'r Sir. Bydd hyn yn ychwanegiad pwysig i'r treftadaeth enfawr sy' ganddom ni i'w gynnig yn y Sir i ymwelwyr Sir Gaerfyrddin a'r rhanbarth."
Mae darluniau Thomas Hornor o dirwedd Neuadd Middleton tua 1815 wedi bod yn rhan allweddol o'r cais. Mae'r darluniau wedi cael eu hail-gynhyrchu gyda chaniatâd caredig y teulu Grant.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013