Y Gwyll yn arwain enwbiadau gwobrau Bafta Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddrama Y Gwyll yn arwain yr enwebiadau ar gyfer gwobrau Bafta Cymru 2014 ar gyfer ffilmiau a theledu Cymreig.
Mae'r gyfres, gafodd ei chynhyrchu yn Saesneg hefyd - Hinterland - a'i ffilmio yn Aberystwyth, wedi cael naw enwebiad, tra bod y gyfres dditectif Sherlock a'r ddrama ddirgelwch 35 Diwrnod wedi cael pump yr un.
Cafodd archwilwyr allanol eu gwahodd i graffu ar y broses feirniadu eleni, ar ôl i'r enw anghywir gael ei gyhoeddi fel yr enillydd yn y categori newyddion yn 2013.
Bydd yr enillwyr yn cael eu henwi mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Hydref.
Enwebiadau
Mae dau o brif actorion Y Gwyll/Hinterland wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau'r actor gorau - Richard Harrington - a'r actores orau - Mali Harries.
Cafodd cyfarwyddwr ac awdur y ddrama, Marc Evans a Jeff Murphy eu henwebu hefyd.
Mae'r ddrama ffantasi, Da Vinci's Demons wedi derbyn enwebiadau mewn pedwar categori.
Ymhlith eraill sydd wedi eu henwebu mae Ruth Jones am ei gwaith fel awdur Stella, y cerddor Gruff Rhys am ei ffilm ddogfen, American Interior, a'r rhaglen ddogfen The Call Centre.
Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: "Mae wedi bod yn flwyddyn ragorol i'r holl dalentau teledu a ffilm sy'n gweithio yng Nghymru.
"Mae cynrychiolaeth ac amrywiaeth eang o raglenni ac unigolion dros y 28 categori - yn y ddwy iaith, o'r rhai sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd i unigolion profiadol. Edrychwn ymlaen at gyd-weithio gyda'n partneriaid a'n noddwyr ar gyfer noson wych arall o ddathlu."
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei gynnal ar Hydref 26 yng Nghanolfan y Mileniwm.
Roedd dadlau mawr y llynedd ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod y rhaglen anghywir wedi ei henwi fel enillydd un o'r gwobrau.
Cafodd y rhaglen Newyddion, sy'n cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru, ei henwi fel enillydd y categori newyddion, er mai rhaglen ITV, Wales Tonight gafodd ei dewis gan y beirniaid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd30 Medi 2013