Pwll nofio cymunedol Arberth i gau
- Cyhoeddwyd

Cafodd argymhelliad ei wneud i'r cabinet i gau'r pwll i arbed arian
Bydd pwll nofio cymunedol yn Arberth yn cau ar ddiwedd mis Hydref yn dilyn pleidlais unfrydol gan gabinet Cyngor Sir Penfro.
Bu ymgyrch hir i geisio achub y pwll yn y dref.
Cafodd argymhelliad ei wneud i'r cabinet i gau'r pwll i arbed arian.
Roedd y penderfyniad wedi cael ei ohirio i ganiatáu amser i Gyfeillion Pwll Arberth i ddatblygu cynlluniau i'w rheoli fel menter gymunedol.
Ond nawr ni fydd cyfle iddynt i'w gynnal.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol